Rhy gynnar i wybod am fwriad Burnham am ddatganoli - ap Iorwerth

Rhun ap Iorwerth ac Andy Burnham Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ap Iorwerth fod Burnham wedi bod "o ddifrif" ynglŷn â chynnal trafodaethau mewn "ysbryd agored"

GanCemlyn Davies
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Mae'n "rhy gynnar" i wybod a fydd prif weinidog newydd y DU yn derbyn galwadau Llywodraeth Cymru am fwy o bwerau, yn ôl prif weinidog Cymru.

Cynhaliodd Rhun ap Iorwerth ei gyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf gydag Andy Burnham yng Nglasgow ddydd Iau.

Yn siarad wedi hynny, dywedodd ap Iorwerth fod Burnham wedi bod "o ddifrif" ynglŷn â chynnal trafodaethau mewn "ysbryd agored".

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street: "Amlinellodd y prif weinidog ei ymrwymiad i weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, ac i berthynas sy'n seiliedig ar barch rhwng y ddwy ochr.

"Fe wnaethon nhw drafod eu huchelgais gyffredin ar gyfer twf a buddsoddiad i gyrraedd pob rhan o Gymru."

Ychwanegodd y llefarydd bod Burnham "eisiau trafodaeth agored a pharhaus gyda'r prif weinidog ar y materion sydd bwysicaf ar draws Cymru".

Ddydd Mercher dywedodd yr Ysgrifennydd Cymru newydd nad yw wedi'i "argyhoeddi'n llwyr" ynglŷn â rhoi mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru, ond ei fod yn "agored i'r sgwrs".

'Ysbryd cadarnhaol ac agored'

Mae llywodraeth Plaid Cymru eisiau gweld pwerau dros blismona a chyfiawnder ieuenctid, rheilffyrdd ac Ystâd y Goron yn cael eu datganoli o San Steffan i Gaerdydd.

Pan ofynnwyd iddo gan BBC Cymru pa ymateb a gafwyd i'r galwadau hynny yng nghyfarfod heddiw, dywedodd ap Iorwerth: "A bod yn deg, rwy'n credu ei bod hi'n rhy gynnar i gael yr ymateb hwnnw."

"Yr hyn rwy'n ei gymryd yn galonogol, o'n sgwrs yn gynharach yr wythnos hon ac o'n cyfarfod wyneb yn wyneb heddiw, yw ei fod o ddifrif ynglŷn â chael y sgwrs, y trafodaethau, mewn ysbryd cadarnhaol ac agored."

Ar ôl i'r cyn-brif weinidog Syr Keir Starmer gael ei gyhuddo o danseilio datganoli drwy osgoi gweinidogion Cymru, gofynnwyd i ap Iorwerth hefyd a oedd wedi cael sicrwydd na fyddai gweinyddiaeth Andy Burnham yn gwneud yr un peth.

Ni wnaeth ap Iorwerth ateb y cwestiwn yn uniongyrchol ond dywedodd ei fod wedi dweud wrth Andy Burnham ei fod yn disgwyl iddo fod yn "fwy parod i wrando ar yr hyn sydd ei angen i wneud i ddatganoli weithio i Gymru" o ystyried ei gefndir fel maer Manceinion Fwyaf.

"Y pwynt a wnes i oedd, er mwyn grymuso cymunedau a phobl, sy'n wirioneddol bwysig i mi a'r prif weinidog, fod yn rhaid i ni sicrhau bod gennym Senedd grymus a Llywodraeth Cymru grymus.

"Mae'n rhoi sicrwydd i mi ei fod yn ei weld yn y ffordd honno hefyd."

Dyma oedd cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf Rhun ap Iorwerth â phrif weinidog y DU ers iddo gael ei benodi'n brif weinidog Cymru ym mis Mai.

Yn ystod ei unig sgwrs ffôn gyda Syr Keir, cododd ap Iorwerth y mater o annibyniaeth.

Pan ofynnwyd iddo a oedd wedi gwneud hynny eto gyda'r prif weinidog newydd, dywedodd ap Iorwerth fod Burnham "yn gwybod beth yw fy uchelgais i Gymru".

"Mae pawb yn gwybod fy mod i'n credu mewn Cymru a'n gallu i fod yn genedl normal."

"Mae gen i weledigaeth glir iawn o'r hyn y gallai Cymru fod yn y dyfodol, a byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i'n harwain ni yno.

"Mae gen i weledigaeth glir iawn hefyd o'r pethau sydd angen i ni eu gwneud nawr, ac mae'n dda gwybod bod y prif weinidog yn awyddus i gael y sgwrs honno gyda mi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.