Crynodeb

  • Miloedd o ddisgyblion ar draws Cymru yn derbyn canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol a chymwysterau galwedigaethol

  • Roedd 29.6% o'r graddau yn A* neu A eleni - 0.1% o gynnydd ers y llynedd - a mwy wedi pasio

  • Mwy wedi astudio Cymraeg eleni ond y gwyddorau yw'r pynciau mwyaf poblogaidd

  • 17% o bobl ifanc 16 i 24 oed Cymru ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant

  1. 'Canlyniad gwych' i Ffion, sy'n ofalwr ifancwedi ei gyhoeddi 10:32 GMT+1

    A hithau'n gofalu am ei mam, mae canlyniadau Ffion Haf, 19, o Ysgol Morgan Llwyd, hyd yn oed yn fwy arbennig iddi, meddai.

    "Dw i'n ofalwr... ers o'n i'n bedair 'dw i wedi bod yn ofalwr ifanc, yn gofalu am Mam ers dw i'n cofio.

    "Mae 'di bod yn eithaf anodd ac roedd 'neud Lefel A yn fwy anodd, felly dyna pam 'dw i'n fwy chuffed nag o'n i am fod gyda chanlyniad gwych."

    Ffion

    Mynd i Brifysgol De Cymru i astudio hyfforddi pêl-droed yw'r bwriad i Ffion nawr, eglurai.

    "Dwi bach yn nerfus, ond dwi'n hapus ac yn lwcus."

  2. Edrych i mewn i Gyllid Myfyrwyr Cymru wedi 'ysgafnhau'r ofn'wedi ei gyhoeddi 10:26 GMT+1

    Mae Awel, 17, o Lansannan yn mynd i astudio newyddiaduriaeth yng Nghaerdydd ym mis Medi ar ôl derbyn A*A*AA mewn Cymraeg, Drama, Troseddeg a'r BAC.

    Doedd Awel ddim yn sicr ar y dechrau a oedd hi am fynd i brifysgol ond "rwan bo fi'n hollol sicr ac yn edrych mlaen i fynd i brifysgol dwi'n meddwl bod y pwysau wedi dechrau taro fi 'chydig bach," meddai.

    Roedd ei amheuon gwreiddiol am "y pres".

    "Mae gymaint o bobl yn sôn am y ddyled sy'n gallu adeiladu fyny o brifysgol felly o'dd hynny yn sicr yn rhywbeth yn fy meddwl i drwy'r amser.

    "Ond rwan bo fi wedi edrych bach mwy i fewn i Cyllid Myfyrwyr Cymru a sut mae'r system yna'n gweithio mae wedi ysgafnhau'r ofn yna chydig bach."

  3. 'Heddiw yn benllanw gwaith caled dros y saith mlynedd ddiwethaf'wedi ei gyhoeddi 10:23 GMT+1

    Nia Land

    “Mae’r canlyniadau heddiw yn benllanw gwaith caled y disgyblion dros y saith mlynedd diwethaf, ac rydym yn ymfalchïo’n fawr yn eu llwyddiant,” meddai Mrs Nia Land, pennaeth chweched Ysgol Bro Edern.

    Roedd Harri ac Ela ymhlith y myfyrwyr oedd wedi dod draw i'r ysgol i gasglu eu canlyniadau AS y bore 'ma.

    Harri ac Ela
  4. Eryn â'i golygon ar wneud peirianneg mecanyddol... ar ôl cymryd blwyddyn allanwedi ei gyhoeddi 10:19 GMT+1

    Astudiodd Eryn Williams, 18, o Brestatyn Mathemateg, Ffiseg, Bioleg a'r Bac yn Ysgol Glan Clwyd, gan ennill 3 A a B.

    Mae hi am gymryd o leiaf un flwyddyn allan i weithio a theithio, gyda'r bwriad yn y pendraw i ddilyn gyrfa mewn peirianneg mecanyddol, un ai drwy fynd i'r brifysgol neu drwy wneud prentisiaeth.

  5. William yn mynd i'r fyddin ar ôl gadael Olchfawedi ei gyhoeddi 10:16 GMT+1

    Mae William Hopkins wedi bod yn astudio tuag at BTEC mewn Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai (Uniformed Protective Services) yn Ysgol Olchfa, ochr-yn-ochr â Lefelau A mewn Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth.

    William

    Mae wedi derbyn beth roedd ei angen er mwyn ymuno â'r fyddin, sef 70 pwynt UCAS.

    "Dwi wedi ei fwynhau, ond dwi erioed wedi bod yn academaidd iawn a 'nes i erioed fwynhau'r ysgol rhyw lawer," meddai.

    "Dwi wastad wedi mwynhau pethau newydd a gwthio fy hun i'r eithaf."

  6. Os ddim prifysgol... beth yw'r opsiynau eraill?wedi ei gyhoeddi 10:12 GMT+1

    Yn ôl Elan Gwyn o Gyrfa Cymru, mae yna lawer o opsiynau ar gael i bobl ifanc sy'n derbyn eu canlyniadau Safon Uwch heddiw, nid dim ond prifysgol:

    • Prentisiaeth
    • Gwaith
    • Dechrau eu busnes eu hunain
    • Hyfforddi/aros mewn addysg

    ElanFfynhonnell y llun, Elan Gwyn

    "Beth ydyn ni’n ei wneud fel cynghorwyr," eglurai Elan, "ydy sôn efo pobl ifanc, gweld beth ydy’r opsiwn gorau iddyn nhw, a ‘nawn ni sbio ar bethau fel dyledion a beth sy’n bwysig iddyn nhw o ran hynny hefyd.

    "Os oes ganddyn nhw gynllun, ac mae’r cynllun yn newid, mae hynny yn hollol fine; allwn ni fynd drwy’r opsiynau i gyd a’u helpu nhw i wneud y penderfyniad gorau iddyn nhw, a rhoi cynllun at ei gilydd."

  7. Gohebydd addysg Bethan Lewis: 'Darlun digon sefydlog wedi'r pandemig'wedi ei gyhoeddi 10:07 GMT+1

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae canlyniadau Safon Uwch yn dangos darlun digon sefydlog yn dilyn blynyddoedd y pandemig.

    Mae graddau Safon Uwch ychydig yn uwch ac Uwch Gyfrannol (AS) ychydig yn is, a miloedd hefyd wedi derbyn canlyniadau am gymwysterau galwedigaethol.

    Mae chweched Dosbarth Ysgol Olchfa yn Abertawe ymhlith y mwyaf yng Nghymru gyda tua 550 o fyfyrwyr ac yma bore ‘ma roedd na gymysgedd o emosiynau.

    Roedd rhai o’r rheini oedd wedi cael graddau yn is na’r disgwyl dal wedi cael eu lle yn y brifysgol - eraill nawr yn ystyried opsiynau.

    Ac roedd sawl un yn dilyn trywydd gwahanol – siaradais i gyda ddau myfyriwr sydd nawr yn ymuno â’r lluoedd arfog.

    O ran y sefyllfa ar draws Cymru gyfan, un gwahaniaeth amlwg eleni yw mai gweinidog Plaid Cymru sy'n llongyfarch myfyrwyr.

    Dim ond ychydig fisoedd sy ‘na ers i'r llywodraeth newydd gael ei hethol, felly fydd 'na fawr o ddylanwad ar y canlyniadau hyn.

    Ond mae heriau sylweddol o'u blaenau, gan gynnwys mynd i'r afael â phroblemau prifysgolion Cymru.

  8. Y cariadon sy'n mynd i Aber gyda'i gilyddwedi ei gyhoeddi 10:04 GMT+1

    Mae Dion a Teagan o Ysgol Morgan Llwyd yn ddau gariad ac yn mynd gyda'i gilydd i'r brifysgol yn Aberystwyth.

    Dywedodd Teagan: "'Da ni'n mynd i aros yn neuadd Pantycelyn; aethon ni draw i'r brifysgol i weld a rili rili hoffi fo."

    Dion a Teagan
  9. Dagrau a dathlu... ac ar ei ffordd i Durhamwedi ei gyhoeddi 09:58 GMT+1

    Roedd Angharad o Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, sy'n 18 oed, yn llawn dagrau o lawenydd y bore 'ma wrth agor ei chanlyniadau - ABB yn ei phynciau, a derbyn lle i astudio ym mhrifysgol Durham.

    Dywedodd: "Oedd o'n complete disbelief, doeddwn i'm yn disgwyl hyn o gwbl a rhyddhad mawr.

    "Dw i'n hapus i orffen a mynd allan gyda ffrindiau i ddathlu."

    Angharad
  10. Blwyddyn allan: Rhai ddim am fynd i'r brifysgol yn sythwedi ei gyhoeddi 09:55 GMT+1

    Cymryd saib o arholiadau am ychydig yw bwriad Osian o Ysgol Morgan Llwyd, sydd yn "hapus" ei fod wedi derbyn AAB yn ei Lefel A.

    "Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl; 'nes i'n well na'r disgwyl.

    "Dw i am gymryd blwyddyn allan achos dw i ddim eisiau arholiadau ar ddiwedd blwyddyn - dwi am ddychwelyd fel cymhorthydd yn yr ysgol am y tro ac yna mynd i'r brifysgol i ddod yn athro."

    Osian

    Mae Ella Buck hefyd wedi penderfynu cymryd blwyddyn allan, a mynd i deithio'r byd, cyn meddwl am ei chynllun ar gyfer y dyfodol.

    "Dw i wedi cael mewn i John Moores i wneud marchnata, ond 'dw i ddim yn meddwl mod i am fynd.

    "Dw i am gymryd blwyddyn allan, meddwl beth ydw i am ei wneud a falla mynd i Awstralia ac o gwmpas Ewrop."

    Ella
  11. Dirprwy Weinidog: 'Dylech fod yn hynod o falch'wedi ei gyhoeddi 09:53 GMT+1

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, y dylai dysgwyr fod yn "hynod falch o'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni".

    "Os nad yw eich canlyniadau'n hollol fel yr oeddech wedi gobeithio, cofiwch dydyn nhw ddim yn diffinio eich dyfodol ac nad dyma ddiwedd y ffordd.

    "Mae llawer o opsiynau ar gael i chi, ac mae cymorth ar gael trwy Cymru'n Gweithio, eich ysgol neu'ch coleg, i'ch helpu i ddod o hyd i'r llwybr sy'n iawn i chi."

  12. Ac mae Katie hefyd yn rili hapus ...wedi ei gyhoeddi 09:49 GMT+1

    Mae Katie, 18, o Ysgol Gymraeg Bro Edern yn hapus iawn.

    “Dw i’n mynd i Gaerdydd i astudio radiograffeg. Dw i’n rili hapus efo’r canlyniadau – ges i ABA, a dw i’n rili, rili hapus.”

    katie
  13. Gwerthfawrogi'r cyfle i gael addysg Gymraegwedi ei gyhoeddi 09:44 GMT+1

    “Dwi’n rili edrych ymlaen at flwyddyn nesa ar ôl wythnosau a misoedd o waith caled. Dwi mor falch!" meddai Leisa, oedd yn ôl ei chanlyniadau Lefel A heddiw.

    Leisa
    Disgrifiad o’r llun,

    Leisa

    Dwy arall sy’n dathlu yw Labiba a Lamisa.

    Roedd y ddwy yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Lakeside ac wedi dod trwy’r Uned Drochi Iaith ym Mlwyddyn 7, cyn trosglwyddo i ysgol Gymraeg Bro Edern.

    Mae’r ddwy wedi gwneud yn arbennig o dda drwy gyfrwng y Gymraeg ac wedi blodeuo yn y chweched dosbarth.

    Meddai Labiba: “Dw i’n rili hapus efo’r canlyniadau ac yn falch iawn o ba mor bell dw i wedi dod ers dechrau dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.”

    Ychwanegodd Lemisa: “Dw i’n falch iawn o’r canlyniadau ac yn edrych ymlaen at barhau gyda fy addysg yn y brifysgol."

  14. Mwy wedi astudio Cymraeg eleni ond y gwyddorau yw'r pynciau mwyaf poblogaiddwedi ei gyhoeddi 09:42 GMT+1

    Mathemateg, Bioleg, Cemeg a Seicoleg oedd y pynciau Safon Uwch mwyaf poblogaidd eto eleni.

    Yn ôl y data diweddaraf roedd y gostyngiadau mwyaf i gofrestriadau haf 2026 o gymharu â 2025 mewn Cyfrifiadureg (-14.9%), Sbaeneg (-12.9%) a Drama a Theatr (-8.2%).

    Cynyddodd cofrestriadau Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (+23.3%), Cymraeg Iaith (+42.7%), tra bod Almaeneg lan 59.4% er bod y niferoedd yn fach.

  15. Sioc i Olivia o gael mynd i'w dewis cyntaf, er ei bod heb gael y graddauwedi ei gyhoeddi 09:40 GMT+1

    Doedd Olivia Greenslade, 18, ddim wedi derbyn y canlyniadau roedd hi wedi gobeithio amdanyn nhw, ond mae hi wedi cael lle yn ei dewis cyntaf, sef Prifysgol Caerwysg i astudio Gwyddoniaeth Biofeddygol, gyda blwyddyn o weithio.

    "Y peth cyntaf 'nes i oedd checio UCAS am 8 ac roedd dagrau hapus - ges i le yn Exeter.

    "Wedyn ddes i i'r ysgol ac agor fy nghanlyniadau, felly roedd braidd yn sypreis achos doedd e ddim beth o'n i'n ei ddisgwyl. Ond mae Exeter dal yn hapus, a dwi hefyd.

    "Fydda i'n mynd mewn mis - dwi'n gyffrous!"

    Olivia
  16. Diolch i Ysgol Bro Edern... ac ar y ffordd i Rydychenwedi ei gyhoeddi 09:34 GMT+1

    Gan ei bod hi wedi derbyn 3 A*, mae Manon, 18 oed wedi cael lle yn Rhydychen i astudio Ffrangeg a Sbaeneg.

    “Dwi mor ddiolchgar i’r ysgol; ma' nhw wedi bod yn wych! A dwi wir yn edrych 'mlaen!”

    Manon
  17. 22.5% o raddau UG yn A a mwy na llynedd wedi sefyllwedi ei gyhoeddi 09:33 GMT+1
    Newydd dorri

    Cymwysterau Cymru

    Cafodd 42,082 o raddau Uwch Gyfrannol eu dyfarnu yr haf hwn – i fyny 5.4% o'i gymharu â 2025, medd Cymwysterau Cymru.

    Cafodd graddau eu dyfarnu i 17,875 o ddysgwyr yng Nghymru eleni – o'i gymharu â 17,010 yn haf 2025.

    Mae 22.5% o ganlyniadau UG eleni yn raddau A, ac mae 90.7% o ganlyniadau yn raddau A i E.

    Ar gyfer unigolion 17 oed yn sefyll cymwysterau UG cymeradwy mae 22.8% o ganlyniadau yn raddau A, ac mae 90.1% o ganlyniadau yn raddau A i E.

    O ran Bagloriaeth Sgiliau Uwch safodd 12,237 o ddysgwyr y cymhwyster yr haf hwn o’i gymharu â 10,969 yn haf 2025.

    O'r canlyniadau a ddyfarnwyd, mae 8.0% yn raddau A*, 29.0% yn raddau A* neu A a 97.4% yn raddau A* i E.

  18. 29.6% o ganlyniadau eleni yn raddau A* neu Awedi ei gyhoeddi 09:30 GMT+1
    Newydd dorri

    Cymwysterau Cymru

    Mae Cymwysterau Cymru newydd gadarnhau bod 32,633 o raddau Safon Uwch wedi cael eu dyfarnu yr haf hwn – i fyny 2.6% o'i gymharu â 2025.

    Cafodd graddau eu dyfarnu i 13,930 o ddysgwyr yng Nghymru eleni – o'i gymharu â 13,585 haf diwethaf

    Mae 10.7% o ganlyniadau Safon Uwch eleni yn raddau A*, mae 29.6% o ganlyniadau yn raddau A* neu A, ac mae 97.7% o ganlyniadau yn raddau A* i E.

    Ar gyfer unigolion 18 oed yn sefyll Safon Uwch cymeradwy mae 10.5% o ganlyniadau yn raddau A*, mae 29.7% o ganlyniadau yn raddau A* neu A, ac mae 98.0% o ganlyniadau yn raddau A* i E.

    cymwysterau
  19. Edrych ymlaen i fod yn gymhorthydd ym Morgan Llwydwedi ei gyhoeddi 09:24 GMT+1

    Efallai bod rhai yn edrych ymlaen i adael yr ysgol ar ôl heddiw, ond mae Ffion Williams, 18 yn dychwelyd ym mis Medi i weithio fel cymhorthydd yn Ysgol Morgan Llwyd. Cafodd raddau D,B a Rhagoriaeth.

    Dywedodd: "'Dw i'n gyffrous i ddechrau fel cymhorthydd. Doeddwn i ddim yn siŵr am fynd i brifysgol a 'dw i'n bwriadu mynd i addysgu felly mae hyn yn ddechrau da."

    Dywedodd ei bod yn bwriadu mynd i gael bwyd o fwyty cyfagos i ddathlu ei chanlyniadau.

    Ffion
  20. Cwtsh gyda mam i ddathlu canlyniadau ASwedi ei gyhoeddi 09:21 GMT+1

    Roedd Ruby yn Ysgol Bro Edern yn ôl ei chanlyniadau AS bore 'ma, ac wedi dod â'i mam gyda hi yn gefnogaeth.

    “O'n i jyst mor emosiynol, fi wedi gweithio mor galed.

    "'Nes i agor y papur a beichio crio, fi dal yn crynu nawr. Fi’n edrych mlaen at ddod nôl 'ma yn mis Medi er mwyn cwblhau fy Lefel A."

    Ruby