'Syched Plaid am wahardd chwaraeon diwylliannol Prydain'wedi ei gyhoeddi 14:26 GMT+1
Mae Cai Parry-Jones o Reform UK yn dweud wrth Rhun ap Iorwerth fod Plaid Cymru wedi cefnogi gwahardd rasio milgwn yng Nghymru ac "o ganlyniad, bydd yn cael ei wahardd yn llwyr yng Nghymru mor gynnar â mis Ebrill nesaf".
Dywed ei fod yn poeni na fydd "syched Plaid am wahardd chwaraeon diwylliannol Prydain yn dod i ben yma", a bod arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wedi "dweud ychydig fisoedd yn ôl y dylid gwahardd rasio ceffylau fel y Grand National".
"A wnewch chi gadarnhau i'r Senedd heddiw na fyddwch chi'n symud i wahardd rasio ceffylau gyda neidiau yma yng Nghymru?" gofynna.
Nid yw Rhun ap Iorwerth yn ateb yn uniongyrchol, gan ddweud: "Mae arna' i ofn bod yn rhaid i mi gywiro'r aelod - roedd y bleidlais ar rasio milgwn yn bleidlais rydd."
Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru







