Crynodeb

  • 'Sefydlogrwydd' yng nghanlyniadau TGAU gyda 62.3% yn A*-C

  • Blwyddyn 10 i gael canlyniadau hefyd

  • Pynciau newydd sbon fel dawns a TGAU cyfryngau digidol a ffilm yn cael eu cyflwyno

  1. 'Mae yna lwybr gyrfa ar gael i bob un'wedi ei gyhoeddi 11:09 GMT+1

    Ar raglen Dros Frecwast heddiw, bu prif weithredwr Grŵp Colegau Llandrillo Menai, Aled Jones Griffiths yn egluro'r math o ystyriaethau fydd ar feddyliau disgyblion Cymru heddiw.

    "Da ni yn cael amrywiaeth o bobl. Ryda ni'n cael pobl sydd yn barod wedi gwneud cais i ddod aton ni i'r coleg i astudio Lefel A, i wneud cyrsiau galwedigaethol Lefel Tri, a phobl yn dod aton ni i gael sgwrs ynglŷn ag opsiynau amgen fel prentisiaethau ar gael."

    "Da ni hefyd yn cael nifer sy'n dod aton ni oherwydd bod nhw ddim wedi cael y canlyniadau maen nhw wedi gobeithio amdanyn nhw.

    "Byswn i'n annog yn gryf i unrhywun sy'n agor eu hamlenni bore 'ma, ac sydd ddim cweit wedi cael y canlyniadau maen nhw yn obeithiol amdanyn nhw i beidio petruso yn ormodol."

    "Mae 'na rywbeth ac mae yna lwybr gyrfa ar gael i bob un, dal ar gael. Tase nhw yn dod mewn aton ni yn unrhywun o'r saith prif gampws heddiw rhwng 10:00 a 16:00 mi gawn ni sgwrs gyda nhw."

  2. Ymateb Cymdeithas y Prifathrawonwedi ei gyhoeddi 10:58 GMT+1

    Mae Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) wedi ymateb i ganlyniadau heddiw. Dywedodd yr ysgrifennydd cenedlaethol, Dr Graham Gault:

    “Hoffwn longyfarch yr holl ddysgwyr sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol ledled Cymru heddiw.

    “Y tu ôl i bob gradd mae cryn dipyn o ymdrech gan y myfyrwyr eu hunain, ynghyd â chefnogaeth athrawon, arweinwyr ysgolion, staff cymorth a theuluoedd sydd wedi eu helpu i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon.

    “Wrth i bobl ifanc gymryd eu camau nesaf, boed hynny i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth, dylent wneud hynny gyda hyder a balchder.

    “Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i’w gwaith caled ac i ymroddiad y gweithlu addysg, sy’n parhau i gefnogi plant a phobl ifanc mewn amgylchiadau sy’n dod yn fwyfwy heriol.

    “Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn cael dewis gwell o lwybrau academaidd, technegol a galwedigaethol yng Nghyfnod Allweddol 4 a thu hwnt, sy’n adlewyrchu eu cryfderau, eu diddordebau a’u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol fel rhan o gwricwlwm eang a chytbwys.

    “Nid yw TGAU yn unig yn diwallu anghenion pob dysgwr, hyd yn oed y rhai sy’n dewis dilyn llwybr academaidd mwy traddodiadol.”

  3. Mwy o luniau dathliadau Sir Benfrowedi ei gyhoeddi 10:53 GMT+1

    Roedd digon a wenu i'w weld yng Nghrymych y bore 'ma wrth i ddisgyblion Ysgol Preseli gasglu eu canlyniadau.

    ysgol preseli
    PRESELI
    PRESELI
  4. 'Canlyniadau blwyddyn 11 gorau erioed' yn Ysgol Garth Olwgwedi ei gyhoeddi 10:51 GMT+1

    Mae Ysgol Garth Olwg, Pontypridd wedi llongyfarch disgyblion am 'ganlyniadau blwyddyn 11 gorau erioed yr ysgol' ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Ysgol Garth OlwgFfynhonnell y llun, Ysgol Garth Olwg
    Ysgol Garth OlwgFfynhonnell y llun, Ysgol Garth Olwg
  5. Pennaeth Ysgol Glantaf yn 'poeni am les disgyblion'wedi ei gyhoeddi 10:37 GMT+1

    Yn siarad gyda Cymru Fyw, dywedodd Dyfrig Rees, pennaeth Ysgol Glantaf, Caerdydd:

    "Sai’n credu bod e’n gyfrinach ar draws y sector, ma 'na bryder i’r newid yn yr asesu yn benodol o fewn ieithoedd - lle ma 'na fwy o asesu yn ystod y flwyddyn.

    "Dwi'n credu bod blwyddyn 10 wedi teimlo yn ystod y flwyddyn bod nhw wedi mynd o un asesiad i'r nesa, yn hytrach na bod gyda ni'r amser i ganolbwyntio ar y dysgu ar addysgu. Fi'n deall y rhesymau tu ôl i hynny ond fi'n credu bod angen edrych eto ar yr asesu hynny.

    "O ran lles disgyblion, fi’n poeni. Dyw e ddim wedi effeithio o ran cyrhaeddiad a sut ma nhw wedi gwneud ond yr adborth ni’n cael gan ddisgyblion ac athrawon ydi bod nhw wedi gweld gwahaniaeth a bod e’n rhoi straen arnyn nhw drwy gydol y flwyddyn academaidd."

    Dyfrig Rees
    Disgrifiad o’r llun,

    Dyfrig Rees, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

  6. Pethau'n tawelu yn Aberystwythwedi ei gyhoeddi 10:29 GMT+1

    Mae pethau wedi tawelu yn Ysgol Penweddig erbyn hyn gyda'r mwyafrif o'r disgyblion wedi cael eu canlyniadau.

    penweddig
    Clive Williams, pennaeth Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Aberystwyth

    Mae'r pennaeth Clive Williams yn falch o'r canlyniadau, a bod gwen ar wynebau llawer o’r disgyblion bore ‘ma.

    Meddai: “Mae 20 Awst 2026 wedi bod yn y dyddiadur gan bawb ers sbel fel diwrnod y canlyniadau.

    “Dwi’n siŵr bod sawl person - yn ddisgyblion a staff - yn gallu bod yn ofidus y noson gynt ond mae’n braf gweld y rhan fwyaf yn gadael gyda gwen a chynllun ar gyfer y dyfodol.”

  7. 'Cyfle i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad ein disgyblion'wedi ei gyhoeddi 10:21 GMT+1

    Ysgol Bro PreseliFfynhonnell y llun, Ysgol Bro Preseli

    Mae dathlu hefyd yn Ysgol Bro Preseli. Mae Pennaeth yr ysgol, Mrs Rhonwen Morris wedi talu teyrnged i ymdrechion disgyblion ac athrawon.

    Meddai: "Mae heddiw yn gyfle i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad ein disgyblion. Mae pob canlyniad yn cynrychioli oriau o ymdrech, penderfyniad a dyfalbarhad.

    "Rydym yn hynod falch o bob unigolyn am yr hyn y maent wedi'i gyflawni, ac am y ffordd y maent wedi cyfrannu at fywyd yr ysgol drwy gydol eu hamser yma."

    "Hoffem hefyd gydnabod cyfraniad eithriadol ein staff addysgu a'n staff cymorth, sydd wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi, arwain ac annog ein disgyblion ar bob cam o'u taith addysgol.

    "O fewn ac y tu hwnt i'r dosbarth, mae eu hymroddiad, eu harbenigedd a'u gofal wedi helpu i greu amgylchedd lle gall pob dysgwr ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i lwyddo."

    Ysgol Bro PreseliFfynhonnell y llun, Ysgol Bro Preseli
  8. Digon o wenu yng Nglantafwedi ei gyhoeddi 10:16 GMT+1

    Mae'r cyffro ar ben yn Ysgol Glantaf, Caerdydd a holl ddisgyblion blynyddoedd 10 ac 11 bellach wedi derbyn eu canlyniadau.

    Deborah Fawkes yw pennaeth blwyddyn 11, ac roedd hi wrth ei bodd y bore 'ma.

    “Dwi mor falch bod y disgyblion yn hapus, ma' nhw wedi gwneud yn grêt!”

    Fawkes
    Disgrifiad o’r llun,

    Deborah Fawkes

  9. Mwy o ganlyniadau da yng Nghil-y-Coedwedi ei gyhoeddi 10:09 GMT+1

    Roedd Riley hefyd yn fodlon yn Ysgol Cil-y-Coed. Dywedodd ei fod wedi cael graddau A* i C yn ei holl bynciau. Cafodd radd E mewn Sbaeneg, ond nid oedd hynny'n ei boeni ryw lawer.

    “Dw i wedi gwneud yn union fel oeddwn i’n meddwl y byddwn i’n gwneud,” meddai.

    “Dw i’n dod yn ôl i’r chweched dosbarth i astudio Mathemateg, Ffiseg a Chemeg.

    “Dw i eisiau bod yn beiriannydd sifil. Dw i eisiau mynd i’r brifysgol ac yna astudio tuag at hynny.”

    I ddathlu ei ganlyniadau, bydd yn cael barbeciw yn nes ymlaen heddiw.

    Riley yn Cil-y-Coed
  10. Barod i ddathluwedi ei gyhoeddi 10:00 GMT+1

    Roedd Coltan yn gwybod ei fod wedi gweithio’n galed, ac roedd yn fodlon ei fyd ar ôl casglu ei ganlyniadau yn Ysgol Cil-y-Coed, Sir Fynwy.

    “Fe wnes i’n eithaf da,” meddai, ar ôl cael A* ac A ym mhob pwnc.

    “Dw i’n hapus iawn. Dyna fwy neu lai oeddwn i’n ei ddisgwyl.

    “Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n gwneud cystal mewn Saesneg.

    “Dw i’n dod yn ôl i wneud fy Safon Uwch mewn Hanes, Seicoleg, Economeg ac Astudiaethau Crefyddol.”

    Mae’n gobeithio mynd ymlaen i’r brifysgol i astudio’r gyfraith a dod yn gyfreithiwr, ond heno bydd yn dathlu gyda ffrindiau a theulu.

    Coltan yn derbyn ei ganlyniadau TGAU
  11. Y Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg yn llongyfarch disgyblion Cymruwedi ei gyhoeddi 09:55 GMT+1

    Mae'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru sy'n derbyn canlyniadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol.

    Roedd y Gweinidog yn ymweld â Ysgol Uwchradd Llanisien, Caerdydd wrth i ddisgyblion gasglu eu canlyniadau.

    Meddai: "Dw i am longyfarch pawb sy'n cael eu canlyniadau heddiw. Mae hwn yn bwynt pwysig ym mywyd person ifanc, ond 'dyw eich canlyniadau ddim yn diffinio eich dyfodol. Beth bynnag yw eich canlyniadau, mae digon o gyfleoedd ar gael ichi, p'un a ydych chi am fynd i addysg bellach, dilyn prentisiaeth, neu ddechrau mewn cyflogaeth.

    "Mae hwn yn amser cyffrous i feddwl am eich camau nesaf, ac mae cefnogaeth ar gael drwy eich ysgol, Cymru'n Gweithio a Gyrfa Cymru.

    "Mae hefyd yn ddiwrnod balch i athrawon a staff addysg ledled Cymru sydd wedi cefnogi dysgwyr drwy gydol eu hamser yn yr ysgol, a dw i am ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad a'u cefnogaeth.

    "Ry'ch chi wedi gweithio'n galed i gael y canlyniadau hyn, a dw i'n gobeithio y byddwch chi'n mwynhau dathlu eich camp gyda theulu a ffrindiau. Dw i'n dymuno pob lwc ichi yn yr hyn y byddwch chi'n dewis ei wneud nesaf."

    TGAUFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  12. Mwy o lwyddiannau yng Nghlantafwedi ei gyhoeddi 09:45 GMT+1

    Mae giatiau Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ardal gogledd Llandaf, Caerdydd wedi bod yn brysur y bore 'ma wrth i ddisgyblion gasglu eu canlyniadau.

    Dywed Macsen ei fod yn fodlon iawn gyda'i ganlyniadau.

    “Dwi’n falch iawn ac yn hapus bod y gwaith wedi talu ffordd.”

    Macsen
    Disgrifiad o’r llun,

    Macsen yn casglu ei ganlyniadau

    glantaf
    Disgrifiad o’r llun,

    Eiry, Mared a Chloe o Glantaf

  13. 'Sefydlogrwydd' yng nghanlyniadau TGAU gyda 62.3% yn A*-Cwedi ei gyhoeddi 09:39 GMT+1

    Mae canlyniadau TGAU yng Nghymru yn dangos "sefydlogrwydd", yn ôl penaethiaid addysg, wrth i gymwysterau newydd gael eu cyflwyno'n raddol, gyda 62.3% o'r graddau yn C neu uwch.

    Cododd cyfran y graddau uchaf A* ac A o 0.1 pwynt canran i 19.6%, tra bod y gyfradd basio gyffredinol wedi cwympo ychydig.

    Canlyniadau TGAU 2026 (a chymhariaeth â 2025):

    A*-A - 19.6% (i fyny 0.1 pwynt canran o 19.5%)

    A*-C - 62.3% (i lawr 0.2 pwynt canran o 62.5%)

    A*-G - 96.8% (i lawr 0.1 pwynt canran o 96.9%)

    Mwy yma.

    Canlyniadau TGAU
  14. Wnaethoch chi lwyddo ateb ein her TGAU?wedi ei gyhoeddi 09:27 GMT+1

    Yn gynharach fe wnaethon ni osod tri chwestiwn o adnoddau adolygu TGAU Bitesize.

    Dyma'r atebion!

    1. Beth yw ffactorau cysefin 42?

    Ateb: 2 × 3 × 7

    2. Beth yw pedwar term cyntaf y dilyniant cwadratig n2 + 4?

    Ateb: 5, 8, 13, 20

    3. Mae Clare a Frances yn cael £400 i’w rannu gan berthynas oedrannus. Maen nhw’n rhannu’r arian yn y gymhareb 7:9. Faint mae’r ddwy’n ei gael?

    Ateb: £175 i Clare a £225 i Frances.

    Os ydych chi'n dal i grafu pen, ewch draw i wefan Bitesize i adolygu!

  15. 'Ffordd newydd o asesu'n gweithio'n well i fi'wedi ei gyhoeddi 09:25 GMT+1

    Mae Izzy a Keira newydd gasglu eu canlyniadau blwyddyn 10 yn Ysgol Gyfun Glantaf.

    Dywedodd Keira: "Dwi wedi cael A*AA mewn gwyddoniaeth - dwi mor falch!"

    Yn ymateb i’r newidiadau i gwricwlwm TGAU blwyddyn 10, meddai Izzy "Dwi’n teimlo fel bod y ffordd yma o asesu yn gweithio yn well i fi achos dwi'n gwneud yn well mewn gwaith cwrs.

    "Ond roedd asesu drwy’r amser yn gallu bod yn anodd."

    TGAU
    Disgrifiad o’r llun,

    Izzy a Keira o Ysgol Glantaf

    Roedd Finn a Gruff hefyd yn dathlu ar ôl derbyn eu canlyniadau
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Finn a Gruff hefyd yn dathlu ar ôl derbyn eu canlyniadau

  16. 'Nid y canlyniadau ydi’r unig ffordd i fesur llwyddiant'wedi ei gyhoeddi 09:21 GMT+1

    Bydd tua 280 o ddisgyblion blwyddyn 11 a 200 o flwyddyn 10 yn casglu eu canlyniadau o Ysgol Cil-y-Coed, sir Fynwy.

    Fe gafodd y pennaeth Alun Ebenezer ei benodi ym Mehefin 2024 ar ôl i staff gynnal streic oherwydd ymddygiad plant.

    Mae o’n dweud bod y canlyniadau yn profi bod ei newidiadau yn dwyn ffrwyth.

    Wrth siarad â David Grundy ar Radio Wales Breakfast dywedodd:“Nid y canlyniadau ydi’r unig ffordd i fesur llwyddiant, ond yn fesur pwysig.

    “Mae’r canlyniadau’n ein gosod ni gyda’r ugain ysgol orau yn y wlad a dyna oedd y nod.“Tocyn i fywyd ydi’r ysgol, a 'dan ni wedi rhoi tocyn iddyn nhw heddiw.”

    Cil-y-coed
    Disgrifiad o’r llun,

    Penaethiaid Ysgol Uwchradd Cil-y-coed, Alun Ebenezer a James Davies, yn paratoi am ddiwrnod prysur

    Alun Ebenezer
    Disgrifiad o’r llun,

    Alun Ebenezer yn siarad gyda David Grundy

  17. Deuddydd cofiadwy i Mariawedi ei gyhoeddi 09:20 GMT+1

    Mae 'di bod yn ddeuddydd hynod bwysig i Maria, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig. Derbyniodd wregys du karate neithiwr, a phasio ei arholiadau TGAU heddiw.

    Llongyfarchiadau Maria!

    Maria
  18. Digon o drafod a chynllunio ym Mhenweddigwedi ei gyhoeddi 09:15 GMT+1

    Wedi iddynt gasglu'r canlyniadau roedd myfyrwyr Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Aberystwyth yn trafod a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

    penweddig
  19. Blwyddyn 10 yn cyrraedd Ysgol Glantafwedi ei gyhoeddi 09:14 GMT+1

    Mae disgyblion blwyddyn 10 wedi cyrraedd Ysgol Glantaf, Caerdydd er mwyn derbyn eu canlyniadau.

    Mae newidiadau eleni yn golygu bod asesiadau di-arholiad yn cyfrif am hyd at 40% o'r radd derfynol. Heddiw mae disgyblion blwyddyn 10 yn cael marciau am y cymwysterau hynny hanner ffordd drwy'r cwrs.

    Disgyblion blwyddyn 10 Glantaf
    Disgyblion blwyddyn 10 Glantaf
  20. Iolo wrth ei fodd ym Mhenweddigwedi ei gyhoeddi 09:09 GMT+1

    Yn Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig mae Iolo'n dweud ei fod wrth ei fodd.

    Cafodd ganlyniadau o 3 A*, 5 A, 4 B ac 1 C a Rhagoriaeth mewn Mathemateg. Mae'n edrych ymlaen at ddychwelyd i'r ysgol fis nesaf.

    iolo
    Disgrifiad o’r llun,

    Iolo ym Mhenweddig