'Mae yna lwybr gyrfa ar gael i bob un'wedi ei gyhoeddi 11:09 GMT+1
Ar raglen Dros Frecwast heddiw, bu prif weithredwr Grŵp Colegau Llandrillo Menai, Aled Jones Griffiths yn egluro'r math o ystyriaethau fydd ar feddyliau disgyblion Cymru heddiw.
"Da ni yn cael amrywiaeth o bobl. Ryda ni'n cael pobl sydd yn barod wedi gwneud cais i ddod aton ni i'r coleg i astudio Lefel A, i wneud cyrsiau galwedigaethol Lefel Tri, a phobl yn dod aton ni i gael sgwrs ynglŷn ag opsiynau amgen fel prentisiaethau ar gael."
"Da ni hefyd yn cael nifer sy'n dod aton ni oherwydd bod nhw ddim wedi cael y canlyniadau maen nhw wedi gobeithio amdanyn nhw.
"Byswn i'n annog yn gryf i unrhywun sy'n agor eu hamlenni bore 'ma, ac sydd ddim cweit wedi cael y canlyniadau maen nhw yn obeithiol amdanyn nhw i beidio petruso yn ormodol."
"Mae 'na rywbeth ac mae yna lwybr gyrfa ar gael i bob un, dal ar gael. Tase nhw yn dod mewn aton ni yn unrhywun o'r saith prif gampws heddiw rhwng 10:00 a 16:00 mi gawn ni sgwrs gyda nhw."

























