Swydd i ddiogelu iaith unigryw gogledd Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Un sy'n siarad yr dafodiaith er ei bod dros ei 80 oed, yw Mair Garnon James
Mae Menter Iaith Sir Benfro yn chwilio am swyddog i gofnodi a hyrwyddo'r dafodiaith leol.
Mae'r dafodiaith yn unigryw gyda geiriau fel 'perci', 'mini' a 'feidir' o bosib yn ddieithr i weddill Cymru.
Ond mae'r geiriau yn cael eu defnyddio yn gyson ar lafar yn ardal y 'wes wes.'
Gobaith y fenter iaith leol yw cofnodi a throsglwyddo'r cyfoeth ieithyddol i'r genhedlaeth nesaf drwy benodi swyddog tafodiaith am gyfnod o ddwy flynedd.
Aled Scourfield yn holi Mair Garnon James am ei thafodiaith
"Mae'r geiriau mwya' anghyfarwydd yn dechrau diflannu o bosib," meddai Rhidian Evans, prif swyddog y fenter iaith.
"Rydym yn clywed geiriau fel 'dwê' a 'wêr' yn gyson.
"Ond mae 'na stôr o eiriau, i un ardal benodol efallai, sydd mewn perygl ac mae'n bryd eu diogelu.
"Dyma gyfle i gydweithio gyda phobl yr ardal gan fod tafodiaith ar drai am nifer o ffactorau, dylanwad cyfryngau a mewnlifiad er enghraifft."
O ganlyniad fe fydd geiriau ac ymadroddion 'dwê' yn cael eu diogelu a'u defnyddio yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2012