Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Trysor - Cerdd Iwan Kellett, Bardd y Mis Radio Cymru

Aled Hughes

Available for over a year

Trysor Wrth grwydro’r ‘Bonc’, safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ger Marian-glas Uwch y rhos Mae cannoedd o’n nhraed i’n suddo trwy’r ddefod o ddiflastodau. Yn gwibio heibio coed, fu yno gynt, Â dail gwyrdd, eto. Yn taro creigiau hŷn na dyn a’m dihoeni. Ond dilynaf, er y blino, Filltiroedd maith a chamu ‘mlaen Mewn cylchoedd. Ac fe ddaw, mewn man di-nod o’r hirdreuliedig deithiau, gell. Rhyw gornelyn braidd o ddim. Yn y llecyn hwnnw’n bell o bawb Cael gweld hen fro o’r newydd yn goresgyn. Yn yr ysbaid hwn o arsylwadau Ar ystad yr hynafiaethau Mewn rhyw deiliachbwynt yng ngofod-amser, Yn glir, mae defod yn draddodiad unwaith eto’n llanw hardd. Yma’r gwers nad rhaid yw troedio’r llwybrau a gribwyd gynt. Braint yw.

Programme Website
More episodes