Main content
Trysor - Cerdd Iwan Kellett, Bardd y Mis Radio Cymru
Trysor
Wrth grwydro’r ‘Bonc’, safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ger Marian-glas
Uwch y rhos
Mae cannoedd o’n nhraed i’n suddo
trwy’r ddefod o ddiflastodau.
Yn gwibio heibio coed, fu yno gynt,
 dail gwyrdd, eto.
Yn taro creigiau hŷn na dyn a’m dihoeni.
Ond dilynaf, er y blino,
Filltiroedd maith a chamu ‘mlaen
Mewn cylchoedd.
Ac fe ddaw, mewn man di-nod o’r hirdreuliedig deithiau, gell.
Rhyw gornelyn braidd o ddim.
Yn y llecyn hwnnw’n bell o bawb
Cael gweld hen fro o’r newydd yn goresgyn.
Yn yr ysbaid hwn o arsylwadau
Ar ystad yr hynafiaethau
Mewn rhyw deiliachbwynt yng ngofod-amser,
Yn glir, mae defod yn draddodiad
unwaith eto’n llanw hardd.
Yma’r gwers
nad rhaid yw troedio’r
llwybrau a gribwyd gynt.
Braint yw.





