Yn 14 oed, clywed y geiriau: ‘Mae gan Mam gancr’
Mari Grug Davies yw un o wynebau mwyaf adnabyddus S4C, mae hi'n gyflwynydd ar Heno a Prynhawn Da.
Wedi’i magu ym Mynachlog-ddu, dechreuodd ei gyrfa gyda rhaglenni plant cyn symud ymlaen i newyddion a chyflwyno. Ers cael diagnosis o ganser y fron yn 2023, mae hi wedi codi ymwybyddiaeth yn ddiflino drwy ei gwaith darlledu, ei rôl fel llysgennad Ymchwil Canser Cymru, a’r podlediad llwyddiannus 1 mewn 2, a enillodd nifer o wobrau.
Yn 2026, cafodd ei hanrhydeddu drwy gael ei dewis yn Llywydd Gŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd Mari Grug yn ymuno â ni i sôn am ei gyrfa, ei hymgyrchu, a’i thaith bersonol ryfeddol.
Yn y darn yma mae Mari yn sgwrsio gyda Beti George am y diwrnod wnaeth hi glywed y newyddion bod gan ei Mham gancr y fron, a hynny yn 14 mlwydd oed, a'r effaith yna arni.





