Main content

Her Aled Hughes ar gyfer Plant Mewn Angen 2026

Gwneud Môr a Mynydd i BBC Plant mewn Angen

Aled, bydda Pudsey wrth ei fodd pe bydda ti’n mynd ati i herio dy hun i BBC Plant mewn Angen unwaith eto eleni. Ac mae’n gwybod faint wnes di fwynhau cerdded yn 2024, felly beth am i ti wneud her gerdded arall?

Felly eleni, mae Pudsey yn gofyn i ti gerdded 85 milltir dros 5 diwrnod a hynny ar hyd lwybr newydd Taith Dyffryn Teifi.

Mi fyddi di’n cychwyn yn Ystrad Fflur a mynyddoedd Cambria gan orffen ar draeth Poppit ger Aberteifi - cyfle perffaith i ti wneud Môr a Mynydd i BBC Plant mewn Angen.

Bydd y cerdded yn cychwyn dydd Llun y 9fed o Dachwedd ac yn gorffen ddydd Gwener y 13eg o Dachwedd.

Pob lwc Aled!

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau