Episode details

Available for over a year
At Blant mewn Angen leni, Aled Huws, mae hewl i ti lle bydd Teifi’n gwmni i gyd a Theifi’n gyfoeth hefyd. At y lôn trwy’r dyffryn tlws, Aled, dos, fel Odysseus; dilyn afon haelioni, glyna wrth ei glannau hi. Er mwyn y plant, ar antur ei di â fflam Ystrad Fflur ar y daith berffaith o bert, taith gobaith tua Gwbert.
Programme Website