25 mlynedd yn ôl, prin y byddai merched yn cael cyfle i gyflwyno rhaglenni chwaraeon
Mae Lauren Salter, sydd efallai yn fwy adnabyddus yn broffesiynol fel Lauren Jenkins, yn un o brif wynebau darlledu rygbi yng Nghymru. Mae hi wedi gweithio i BBC Sport, S4C, Prime Video a Premier Sports ac yn cyflwyno a sylwebu ar ein sgriniau’n wythnosol.
Daeth yn fwy enwog byth yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am iddi gyfweld chwaraewr rygbi o Ffrainc yn Ffrangeg a chyfieithu ei atebion yn syth i'r Gymraeg.
Fe ddaw yn wreiddiol o Lanelli, yn gyn disgybl Ysgol Gymraeg Dewi Sant ac Ysgol Uwchradd Y Strade. Fe astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg fel Gradd ym Mryste, a bu'n gweithio am gyfnod yn siop Louis Vuitton ym Mharis yn ystod ei blwyddyn allan.
Mae hi'n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa ac yn sôn sut mae pethau wedi newid yn yr 20 mlynedd ddiwethaf.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Lauren Salter
![]()
Gwerthu bagiau ym Mharis
Hyd: 01:26
Mwy o glipiau Beti a'i Phobol
![]()
Gwerthu bagiau ym Mharis
Hyd: 01:26
![]()
Treialu wythnos waith 4 diwrnod
Hyd: 01:44
![]()
35 mlynedd ers carcharu Alun Llwyd
Hyd: 02:31
![]()
Bywyd rhyngwladol Rhys Jones o'r Sarnau
Hyd: 03:03





