Episode details

Available for 33 days
Mae Lauren Salter, sy’n fwy adnabyddus yn broffesiynol fel Lauren Jenkins, yn un o brif wynebau darlledu rygbi yng Nghymru. Mae hi wedi gweithio i BBC Sport, S4C, Prime Video a Premier Sports ac yn cyflwyno a sylwebu ar ein sgriniau’n wythnosol. Daeth yn fwy enwog byth yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am iddi gyfweld chwaraewr rygbi o Ffrainc yn Ffrangeg a chyfieithu ei atebion yn syth i'r Gymraeg. Fe ddaw yn wreiddiol o Lanelli, yn gyn disgybl Ysgol Gymraeg Dewi Sant ac Ysgol Uwchradd Y Strade. Fe astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg fel Gradd ym Mryste, a bu'n gweithio am gyfnod yn siop Louis Vuitton ym Mharis yn ystod ei blwyddyn allan. Mae hi'n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa ac yn cofio am ei phlentyndod a'i hoffter o ffasiwn, ac yn dewis 4 cân yn cynnwys cân gan Eve Goodman ac Alys Williams.
Programme WebsiteTracklist
- TrackArtist
- 1.Aros Am y ChwibanAros Am y ChwibanAdwaith
- 2.One KissOne KissCalvin Harris & Dua Lipa
- 3.Gweld Y Byd Mewn Lliw (feat. Alys Williams & Mr Phormula)Gweld Y Byd Mewn Lliw (feat. Alys Williams & Mr Phormula)Band Pres Llareggub