Main content

Dafydd Iwan, Edward a Cwm Rhyd y Rhosyn
Huw Stephens sy'n cael cwmni Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones i hel atgofion am sut y daeth y recordiau at ei gilydd. Huw Stephens, Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones reminisce.
Glywsoch chi 'rioed am Gwm Rhyd Y Rhosyn? Dyna i chi le bendigedig.
Ond wyddoch chi fod y record gynta' yn y casgliad yma bron yn 50 mlwydd oed?
Ar drothwy'r penblwydd yn hanner cant, Huw Stephens sy'n cael cwmni Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones i hel atgofion am sut y daeth y recordiau at ei gilydd, caneuon sydd yr un mor boblogaidd heddiw ac oedden nhw hanner canrif ôl, ac sydd wedi cipio dychymyg plant Cymru ers cenhedlaethau.
