Ymgynghori ar drafnidiaeth gogledd Cymru

Leslie Randall a Eirlys Roberts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Leslie (chwith) yn dweud bod teithio ar fysiau yn 'reit hywlus' ond hoffai Eirlys weld mwy ohonynt yn rhedeg

GanElen Wyn
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Dros yr wythnosau nesaf bydd cyfle i bobl, busnesau ac ymwelwyr gymryd rhan mewn ymgynghoriad sy'n edrych ar brofiadau teithio lleol.

Mae'r cwbl wedi ei drefnu gan 'Uchelgais Gogledd Cymru' sy'n bartneriaeth rhwng awdurdodau lleol y gogledd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Wrecsam, Colegau addysg bellach - Gr诺p Llandrillo Menai a Choleg Cambria.

Mae pobl leol yn cael eu hannog i roi eu barn ar gynllun drafft Trafnidiaeth Ranbarthol ar gyfer y pum mlynedd nesa.

Y bwriad ydi addasu cynlluniau presennol i gyd-fynd 芒 blaenoriaethau cenedlaethol, gan edrych ar reilffyrdd, ffyrdd, bysiau, cerdded a beicio a chynnig gwell dewis o deithio, cysylltedd digidol, a lleihau effeithiau amgylcheddol.

Mae Harri Neville o Fangor yn astudio Gwyddor Chwaraeon yn Lerpwl ac yn teithio ar y tr锚n yn aml.

Ond mae prisiau tocynnau yn ei boeni.

"Dwisho nhw fod yn rhatach", meddai.

"Achos bo fi yn Uni gen i railcard ond mae o dal yn costio lot."

Harri Neville
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Harri am weld prisiau tocynnau tr锚n rhatach

Dywedodd Eirlys Roberts byddai trafnidiaeth y gogledd yn well "tasa 'na fwy o fysus ar gael achos ma nhw wedi cytio lot ers cofid."

"Dwi'n gorfod ryshio i neud y negas i ddal y bws 'ma yn 么l rwan."

Weithiau dydy rhai bysus ddim yn cyrraedd meddai.

"Ma' 'na rhyw excuse weithiau bo nhw wedi cael break down a petha felly."

Yn 么l Leslie Randall o Borthaethwy "mae bob dim yn mynd yn reit hwylus i ddeud y gwir, da ni'n lwcus iawn dydan. Cyn bellad dwi'n y cwestiwn mae'r bysus yn siwtio fi yn iawn."

"Fyddai'n mynd ar y bws i Betws y Coed i Landudno weithia yn yr haf de"

"Dwi wrth fy modd efo bysus," dywedodd.

Menyw yn gwenu ar y camera. Mae ganddi wallt coch byr, yn gwisgo sbectol sgwar. Mae hefyd yn gwisgo cot borffor.
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tracey yn canmol y gwasanaethau rheilffordd dim ond iddi gael s锚t ar y tr锚n meddai

Mae Tracey Thomas o Gaernarfon, o'r farn bod trenau ddim yn ddigon hyblyg ac yn dweud hoffai cael tocynnau sy'n caniat谩u i chi fynd ar unrhyw dr锚n a nid cyfyngu i amseroedd penodol.

"Swni'n licio fasa nhw yn cymryd cash. Tydi pawb ddim efo cardia' "

Mae hi'n canmol y gwasanaeth ar dr锚n "os gai s锚t!".

'Awyddus am adborth da neu drwg'

Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas bod clywed barn pobl leol yn hollbwysig

Yn ystod y cyfnod ymgynghori bydd rhai cynghorau yn dewis cynnal eu digwyddiadau ymgynghori eu hunain - mae Cyngor Ynys M么n wedi cynnal dau ddigwyddiad yn barod.

Dywed y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, sy'n is-gadeirydd i Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol 'Uchelgais Gogledd Cymru': "Mae'r ymgynghoriad yma ar gyfer pawb ar draws Gogledd Cymru. Cynllun drafft ydio i ni wella trafnidiaeth ar draws yr ardal.

"Mae o'n wbath sy'n hollbwysig i ni gyd fel unigolion ac i fusnesau ac ymwelwyr i bobl ddeud eu barn, i ddod atom ni i ddeud wrtha ni be' ma'n nhw'n ddymuno gweld fel trafnidiaeth ar draws y gogledd."

Mae ef hefyd yn gyfrifol am bortffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Cyngor Ynys M么n ac yn dweud bod y byd "wedi symyd ymlaen."

"Mae newid hinsawdd wrth gwrs yn hollbwysig mewn unrhyw gynllun sgeno ni ar draws y gogledd" ac maen nhw'n awyddus i glywed adborth "yn dda neu'n ddrwg"

Daw'r ymgynghoriad cyhoeddus i ben 14eg o Ebrill 2025.

Pynciau cysylltiedig