Canfod corff cerddwr ar Fynyddoedd y Berwyn

Mynyddoedd y BerwynFfynhonnell y llun, I Love Colour/Geograph.org
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tîm chwilio ac achub gogledd-ddwyrain Cymru eu galw i Fynyddoedd y Berwyn nos Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae corff cerddwr wedi cael ei ddarganfod ar Fynyddoedd y Berwyn yn y gogledd-ddwyrain.

Cafodd tîm chwilio ac achub gogledd-ddwyrain Cymru eu galw gan Heddlu'r Gogledd nos Sul wedi i gerddwr fynd ar goll yn yr ardal.

Ar ôl chwilio'r mynyddoedd "serth ac anodd" am rai oriau, cafodd corff ei ddarganfod yn hwyrach yn y nos.

Cadarnhaodd y tîm chwilio ac achub bod yr ymgyrch wedi dod i ben yn oriau mân y bore.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig