Carcharu dyn am ladd dynes gyda'i gar ar ôl anadlu nwy chwerthin

Shelley DaviesFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Shelley Davies o'i hanafiadau, dair wythnos ar ôl y digwyddiad yn 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 19 oed wedi ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio mam i dri o blant, ar ôl iddo ddefnyddio ei gar fel "arf" i'w tharo hi a'i phartner y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd.

Bu farw Shelley Davies, 38, yn yr ysbyty dair wythnos wedi iddi hi a'i phartner, David Bratcher 40, gael eu hanafu'n ddifrifol yn y digwyddiad yn ardal Caerau ym mis Medi 2025.

Roedd Kian Bateman o Drelái wedi bod yn anadlu ocsid nitraidd, neu nwy chwerthin, o falŵns cyn iddo yrru'n fwriadol tuag at y cwpl gyda'i gar, ar ôl i David Bratcher fod yn rhan o "ffrwgwd" gyda brawd Bateman.

Bydd Bateman yn treulio isafswm o 17 mlynedd o dan glo.

Kian BatemanFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr bod Kian Bateman wedi defnyddio car ei fam fel "arf" i daro Shelley Davies a'i phartner David Bratcher

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Trelái ychydig cyn 12:30 ar 27 Medi 2025 yn dilyn adroddiadau bod car wedi taro cerddwyr y tu allan i Glwb y 4th Glamorgan Homeguard.

Fe gafodd Shelley Davies ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ond bu farw o'i hanafiadau ar 18 Hydref 2025.

Cafodd ei phartner, David Bratcher, hefyd ei anafu'n ddifrifol a chafodd driniaeth yn yr un ysbyty.

Clywodd y llys bod y cwpl wedi bod mewn digwyddiad cerddorol yn y clwb cymdeithasol ar y noson honno, a bod yna "anghytuno" wedi bod yn ymwneud â brawd Kian Bateman, Kai.

Penderfyniad 'byrbwyll'

Wrth i hynny ddigwydd, roedd Kian Bateman yn dychwelyd i'r ardal, ac yn ôl y Barnwr Mrs Ustus Stacey fe wnaeth benderfyniad "byrbwyll" i gyflymu ei gar a gyrru tuag at Mr Bratcher.

Clywodd y llys iddo beidio â gweld Shelley Davies yn y tywyllwch - roedd hi'n gorwedd rhwng y car a Mr Bratcher.

Fe wnaeth o "yrru drosti ar gyflymder o tua 10mya cyn taro Mr Bratcher" gafodd ei daflu wedyn dros foned y car.

Dywedodd Mrs Ustus Stacey na wnaeth Kian Bateman aros na galw am gymorth a'i fod wedi gadael y car Seat Ibiza, a oedd yn eiddo i'w fam, yn ddiweddarach.

Clywodd y llys hefyd bod Bateman wedi bod yn anadl ocsid nitraidd - sy'n cael ei adnabod fel nwy chwerthin, o falŵns y noson honno.

Heol Trelái, CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Trelái, Caerdydd yn oriau mân 27 Medi 2025

Yn y gwrandawiad ddydd Gwener dywedodd y barnwr ei bod wedi clywed bod Shelley Davies yn "fam wych", a bod ei "haelioni a'i charedigrwydd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'w theulu a'i ffrindiau."

Wrth ddedfrydu Bateman, dywedodd Mrs Ustus Stacey iddo ddefnyddio car ei fam fel "arf" i geisio brifo Mr Bratcher.

Dywedodd ei bod yn derbyn hefyd iddo ildio'i hun i'r heddlu y diwrnod canlynol, a'i fod wedi dangos "gwir ediferwch" ynglŷn â marwolaeth Shelley Davies.

Yn ogystal â threulio o leia 17 mlynedd o dan glo, bydd Bateman ar ôl cael ei ryddhau yn parhau ar drwydded am weddill ei oes.

Ni fydd yn cael gyrru am o leiaf 21 mlynedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig