Dewis rhwng Scarlets a'r Gweilch yn 'gywilyddus' ac am 'strywo ein hardal'

- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi sut y byddan nhw'n cwtogi nifer y timau proffesiynol o bedwar i dri erbyn 2028.
Oherwydd natur ddaearyddol y rhanbarthau maen nhw wedi dweud eu bod yn bwriadu cael gwared â naill ai'r Gweilch neu'r Scarlets.
Fe wnaeth y corff llywodraethol gadarnhau fis Ebrill eu bod yn gobeithio parhau â'u cynlluniau i gwtogi i dri thîm ar gyfer tymor 2028-29, gydag un tîm yn y brifddinas, un yn y gorllewin, ac un yn y dwyrain.
Mae Caerdydd, sy'n eiddo i Undeb Rygbi Cymru (URC), a'r Dreigiau, busnes sy'n cael ei gefnogi'n annibynnol, ar fin cael trwyddedau.
Byddai hynny'n gadael y Gweilch o Abertawe a'r Scarlets o Lanelli i gystadlu am y safle sy'n weddill.
Mae hefyd yn bosibilrwydd uno'r ddau - os yn ymarferol.
Mae un o genfogwyr y Gweilch yn dweud bod amseru'r datganiad yn "gywilyddus" gyda chefnogwr arall yn dweud "os yw'r Scarlets yn mynd, fyddai ddim yn gwario ceiniog ar rygbi yng Nghymru eto".

Mewn datganiad, dywedodd URC bod y bwrdd "wedi ystyried amrywiaeth o ffactorau yn fanwl wrth bennu'r tair ardal drwyddedu ar gyfer y dyfodol, ac wedi cadarnhau mai dim ond y timau presennol fydd yn gymwys i gael trwydded".
"Mae hyn yn golygu, yn amodol ar gytundeb ar y telerau trwyddedu terfynol, y byddai'r Dreigiau a Chaerdydd yn cael cynnig y trwyddedau ar gyfer y dwyrain a'r brifddinas yn y drefn honno."
Mae URC yn bwriadu dod ag arweinwyr yr holl dimau proffesiynol a rhanddeiliaid eraill ynghyd wedi Pencampwriaeth y Cenhedloedd fis Tachwedd.
Y penderfyniad wedi 'cynnau matchen'
Dywedodd un o gefnogwyr y Gweilch ei bod hi'n "fore tywyll iawn" a bod penderfyniad URC yn dangos "fod dim cliw 'da nhw am rygbi".
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Non Thomas ei fod yn "gywilyddus" eu bod wedi gwneud y datganiad yma cyn dechrau'r tymor newydd.
"I fod yn onest maen dangos s'dim cliw gyda nhw am rygbi a fel mae rygbi yng nghalon pobl yn yr ardal.
"S'dim cliw 'da nhw chwaith am ddaearyddiaeth i ddweud bod Caerdydd yn y canol - ma' ddim, mae yn y dwyrain.
"Dy' nhw ddim yn deall rygbi, dy' nhw ddim yn deall y diwylliant a beth mae'n rhoi i'r ardal.
"Beth maen nhw wedi 'neud yw cynnau matchen... fel y tanau gwyllt ni 'di gweld o gwmpas sydd wedi strywo popeth, mae hwn mynd i fod fel tân gwyllt a strywo ardal ni o Afon Llwchwr i Ben-y-bont, lan y cymoedd lle bydd dim rygbi, bydd dim pobl na neb yn dilyn rygbi a does dim dyfodol i bobl ifanc sydd eisiau chwarae rygbi."
URC am orfod cynnal cyfarfod cyffredinol arbennig
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
Ffrae am dâl rhwng chwaraewyr rygbi Cymru a'r undeb cyn gemau'r haf
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
Trafodaethau URC a pherchnogion y Gweilch i brynu Caerdydd wedi dymchwel
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
Yr hyn sy'n drist yn ôl un o gefnogwyr y Scarlets, Carwyn Evans yw ei fod yn teimlo mai'r "cynllun oedd o'r dechrau i fynd lawr i dri a oedd [URC] jyst yn trio cadw'r cefnogwyr yn y gorllewin yn dawel am ychydig o amser".
"Yn sicr os yw'r Scarlets yn mynd, fyddai ddim yn gwario ceiniog ar rygbi yng Nghymru eto."
Aeth ymlaen ar raglen Dros Frecwast i ddweud nad yw'n "gweld ffordd mae unrhyw un yn y gorllewin yn gallu rhoi owns o ymddiried yn yr undeb".
'Dyna gyd fydd y chwaraewyr yn siarad am'
Mae cyn-reolwr y Gweilch, Lyn Jones, yn teimlo'n rhwystredig nad oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud eto gan ei fod yn "creu ansicrwydd unwaith eto am y tymor sy'n dod lan".
"Bydd hwn yn effeithio ar y perfformiad dwi'n siŵr.
"'Na gyd fydd y chwaraewyr yn siarad am, 'na gyd fydd y rheolwyr yn siarad am," meddai.
Dywedodd hefyd ei fod yn teimlo bod yr undeb yn "cicio can lawr yr hewl unwaith 'to" ac mai "dyna pam ti'n gweithio i'r undeb - i wneud dewisiadau caled".
Wrth gyfeirio at y tîm rhyngwladol dywedodd: "Ni wedi gweld yn yr haf pa mor wan oedd perfformiad y tîm cenedlaethol, ac wrth gwrs mae rhaid i ni dorri yn ôl- ond mae sut ni'n 'neud o, a'r amseru, a phwy, yn holl bwysig.
"Pan mae'r Gweilch yn llwyddiannus, mae Cymru'n llwyddiannus, ac mae'r un peth yn wir i'r Scarlets."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.