Anrhydeddu'r gantores Mary Hopkin am ei 'dylanwad parhaol'

Mary Hopkin
  • Cyhoeddwyd

Bydd y gantores fyd-enwog Mary Hopkin yn cael ei chydnabod gydag un o anrhydeddau mwyaf byd cerddoriaeth Cymru.

Yn enedigol o Bontardawe daeth i amlygrwydd gyda'r gân 'Those Were The Days', gafodd ei chynhyrchu gan Paul McCartney yn 1968.

Yn seremoni'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig ar nos Fercher 7 Hydref bydd y gantores 76 oed yn derbyn y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig.

Mae'r wobr honno yn cydnabod unigolion y mae eu dylanwad wedi mynd y tu hwnt i lwyddiant yn y siartiau a gwerthu recordiau, gan siapio diwylliant, hyrwyddo creadigrwydd, a gadael dylanwad parhaol ar genedlaethau'r dyfodol.

Mary Hopkin ar Hob y Deri Dando
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Mary Hopkin ei gyrfa yn canu ar gyfres adloniant Gymraeg Hob y Deri Dando yn y 1960au

Dechreuodd Mary Hopkin ei gyrfa fel cantores yn ei harddegau, gan berfformio ar gyfres adloniant Gymraeg Hob y Deri Dando gan BBC Cymru yn y 1960au.

Daeth i sylw'r fodel ryngwladol Twiggy ar ôl perfformio ar sioe ddoniau 'Opportunity Knocks' ar ITV.

Ar ôl cael ei hargymell wedyn i Paul McCartney, daeth y gantores ifanc yn un o'r artistiaid cyntaf i gael eu harwyddo gan Apple Records - y label gafodd ei sefydlu gan The Beatles.

Cafodd ei sengl gyntaf, a gynhyrchwyd gan McCartney, 'Those Were The Days', lwyddiant byd-eang, gan gyrraedd brig siartiau'r Deyrnas Unedig, gwerthu dros 8 miliwn o gopïau ledled y byd, a chyrraedd rhif 2 yn yr Unol Daleithiau – gyda chân y Beatles 'Hey Jude' ar y brig.

Yn fuan wedyn, rhyddhawyd ei halbwm gyntaf 'Postcard', oedd hefyd wedi'i chynhyrchu gan McCartney, gyda sêr fel Jimi Hendrix, Brian Wilson ac Eric Clapton yn ymuno â McCartney yn y parti lansio yn 1969.

Mae gyrfa Mary Hopkin yn cynnwys bod yn llais cefndir ar albwm eiconig David Bowie 'Low', llais ar drac sain 'Vangelis' i ffilm 'Blade Runner' o 1982, enwebiad am wobr Grammy, a chynrychioli'r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth yr Eurovision gyda 'Knock Knock, Who's There?', lle daeth yn ail.

Mary Hopkin gyda Paul McCartney wrth y pianoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Mary Hopkin i amlygrwydd byd-eang gyda'i sengl gyntaf Those Were The Days, gafodd ei chynhyrchu gan Paul McCartney

Wrth gyhoeddi y bydd Mary Hopkin yn derbyn y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig, dywedodd trefnwyr y wobr bod ei gyrfa yn "un o'r straeon llwyddiant mwyaf nodedig yn hanes cerddoriaeth Cymru."

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno mewn seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ar 7 Hydref, gyda Sian Eleri yn arwain y noson.

Ymhlith enillwyr blaenorol y wobr mae Dafydd Iwan, Meic Stevens, David Edwards a Pat Morgan o Datblygu, canwr The Alarm, Mike Peters, a'r haneswyr cerddoriaeth werin Meredydd Evans a Phyllis Kinney.

Jessica Lee Morgan a Mary HopkinFfynhonnell y llun, Christian Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Bydd merch Mary Hopkin, Jessica Lee Morgan yn derbyn y wobr ar ran ei mam yn y seremoni yng Nghaerdydd

Bydd merch Mary Hopkin, Jessica Lee Morgan, sy'n cyd-ganu gyda'i mam, yn derbyn y wobr ar ei rhan yn y seremoni.

Dywedodd bod ei mam "wedi ein magu gyda'r parch uchaf erioed at gerddoriaeth".

"Mae bob amser yn anrhydedd ac yn bleser gweithio gyda hi ac rwy'n hapus i gefnogi ei cherddoriaeth hi yn ei ffordd ei hun, drwy ein label.

"Nid yw erioed wedi bod am yr enwogrwydd, y ddelwedd na'r busnes, ond am y gerddoriaeth yn unig.

Wrth ymateb i'r wobr dywedodd Mary Hopkin ei bod "mor ddiolchgar am yr anrhydedd".

"Dw i ddim yn teimlo'n deilwng ohoni o gwbl," meddai, "ond diolch, bawb. Mae'n hyfryd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig