Poster prin The Beatles yn gwerthu am £28,000

  • Cyhoeddwyd
PosterFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae poster prin yn hysbysebu cyngerdd The Beatles oedd ym meddiant y gantores Mary Hopkin wedi ei werthu mewn arwerthiant am £28,000.

Roedd disgwyl i'r poster, sy'n dyddio'n ôl i 1963, gael ei werthu am oddeutu £400 i £800 fel rhan o gasgliad o eitemau o'r cyfnod oedd ar werth gan y gantores.

Mary Hopkin o Bontardawe oedd un o'r artistiaid cyntaf i arwyddo i label Apple Records band The Beatles.

Mae'r gantores, ddaeth i frig y siartiau yn 1968 gyda'r gân Those Were The Days, hefyd yn gwerthu nifer o wisgoedd o'r cyfnod.

Mary Hopkin
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Mary Hopkin yn enwog wedi iddi ennill sioe dalent Opportunity Knocks pan yn 18 oed.

Mae'r poster yn hysbysebu cyngerdd The Beatles o fis Awst 1963 ym Mhafiliwn y Pier, Llandudno.

Yn ystod yr un mis yn 1963 fe gyhoeddodd y band eu hail gân i gyrraedd brig y siartiau, sef 'She Loves You', ac fe ddechreuodd Beatlemania ar draws y byd.

Cafodd y poster ei werthu mewn arwerthiant ym Mae Colwyn.

Cyn yr arwerthiant dywedodd yr arwerthwr Ben Rogers Jones: "Fy ngobaith i yw y bydd yn mynd i rywun lleol i'r ardal oedd yn y gig ond mae'n sicr y bydd diddordeb mawr o lefydd eraill gan fod y farchnad am nwyddau'r Beatles yn anferthol."

Bydd y cwmni'n gwerthu nifer o wisgoedd y gantores yng Nghaerdydd ar 2 Mehefin.