Cap o £21 ar gost presgripsiwn anifeiliaid dan reolau newydd

ciFfynhonnell y llun, Getty Images
GanDafydd Morgan
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd cap o £21 yn cael ei gyflwyno ar ffioedd presgripsiwn gan filfeddygon yn rhan o newidiadau y mae'n rhaid i filfeddygfeydd eu cyflwyno dros y misoedd nesaf.

Bydd yn rhaid i filfeddygon hefyd ddweud wrth gwsmeriaid os oes meddyginiaeth rhatach ar gael ar-lein, rhoi amcan bris cyn triniaeth a chyhoeddi rhestr brisiau am wasanaethau.

Mae cwsmeriaid wedi croesawu'r newidiadau ond mae 'na bryder ymysg milfeddygon am neges y mesurau newydd.

Mae Macauley Cook yn addoli Simba'r ci ond mae'n gallu bod yn ddrud pan mae'n sâl
Disgrifiad o’r llun,

Mae Macauley Cook yn addoli Simba'r ci ond mae'n gallu bod yn ddrud pan mae'n sâl

Mae Simba yn rhan bwysig o fywyd Macauley Cook.

I nifer o berchnogion anifeiliaid anwes fel Macauley mae'r gost o gadw nhw'n iach, yn enwedig biliau milfeddygol, yn gallu bod yn sioc.

"Ambell waith ni wedi cael antibiotics, cael infection unwaith ac o'dd y drugs yn costio lot," meddai.

"Ni wedi dewis peidio cael yswiriant ond mae'n sioc wedyn pan ti'n mynd i'r fet a chael y bil.

"Ti'n gallu ffindio allan y gost os ti'n ffonio nhw ond mae'n [teimlo] fel bo nhw'n cadw fe'n eitha secret a rhoi e i ti ar ôl yr operation."

Mae milfeddygon wedi ennill ymddiredaeth y cyhoedd ar hyd yr amser, medd Kate O'Sullivan o Filfeddygfa Ystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae milfeddygon wedi ennill ymddiredaeth y cyhoedd ar hyd yr amser, medd Kate O'Sullivan o Filfeddygfa Ystwyth

Mae'r corff sy'n goruchwylio cystadleuaeth rhwng cwmnïau wedi cyflwyno mesurau newydd wedi i ymchwiliad i'r sector ddangos bod prisiau wedi codi bron i ddwywaith cyfradd chwyddiant.

O dan y rheolau newydd bydd yn rhaid i filfeddygon gyflwyno amcangyfrif o unrhyw driniaeth sy'n costio mwy na £500. Bydd hi'n ofynnol nodi cost gofal wedi'r driniaeth a rhestru'r costau'n unigol.

Yn ddibynnol ar faint y cwmni mae gan filfeddygon hyd at 12 mis i gyflwyno'r holl newidiadau.

Mae rhai milfeddygon, fel Kate O'Sullivan o Filfeddygfa Ystwyth yn Aberystwyth yn poeni am y neges mae'r mesurau newydd gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn ei hanfon.

"Maen nhw wedi bod yn emphatic iawn am brisiau moddion - yn fwy na dim byd arall," meddai.

"Fi'n ofni bo nhw yn hela'r cyhoedd i feddwl bo' ni'n ddrud ymhobman.

"Dan ni wastad wedi bod yn broffesiwn sydd gyda ymddiriedaeth y cyhoedd a licen i feddwl bo' ni wedi ennill hynny on merit.

"Mae hyn, mewn ffordd, yn dinistrio'r teimlad yna."

Mae'n bwysig bod milfeddygfeydd yn dryloyw, medd Ifan Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig bod milfeddygfeydd yn dryloyw, medd Ifan Lloyd

Mae Ifan Lloyd yn aelod o Gyngor Cymreig Cymdeithas Milfeddygol y BVA.

Mae'n dweud ei fod yn "bwysig bod busnesau milfeddygol mor transparent â maen nhw'n medru bod a'u bod yn gallu cydweithio gyda pherchennog yr anifail".

"Ni'n siarad yn bennaf am anifeiliaid anwes fan hyn fel bod cwsmeriaid yn gwybod beth fydd y costau yn gallu bod a'r gwahanol opsiynau triniaeth - yn enwedig pan mae triniaethau cymhleth yn costi tipyn o arian."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig