Cannoedd yn protestio yng Nghaernarfon yn erbyn canolfan ddata ar lan y Fenai

Fe ddechreuodd y brotest ar Y Maes yng nghanol y dref am 11:00 fore Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o bobl wedi casglu yng Nghaernarfon i brotestio yn erbyn cynlluniau i godi canolfan ddata newydd ar lan y Fenai.
Roedd dros 300 o bobl ar Y Maes ddydd Sadwrn yn protestio yn erbyn canolfan fyddai'n ymestyn dros 41 hectar rhwng Caernarfon a'r Felinheli ar safle'r hen ffatri Friction Dynamics, neu Ferodo fel y mae pobl leol yn ei adnabod.
Mae'r datblygwyr, cwmni Gwelyfenai, yn dweud y byddai'n arwain at tua 950 o swyddi yn y cyfnod adeiladu a 210 o swyddi parhaol wedi hynny.
Ond gyda dros 23,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu'r cynllun, mae ymgyrchwyr yn dweud y byddai'n dinistrio golygfeydd ac yn dadlau nad yw'r safle'n addas.

Mae'r datblygiad yn destun cais cynllunio i Gyngor Gwynedd, gyda'r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 17 Hydref.
Mae'r cais cynllunio yn dangos y byddai'r ganolfan yn ymestyn dros safle 41 hectar ac y byddai'r adeilad uchaf ar y safle tua 30 metr o uchder.
Byddai'r safle'n cynnwys sawl warws lle fyddai peiriannau storio data yn cael eu cadw.

"Da ni'm yn gwbod am y twrw na be sy'n mynd i fod yn mynd ymlaen yna," meddai Stephen Farrer
Dywedodd Stephen Farrer ei fod yn "sbïo allan dros y safle" o'i dŷ yng Nghaernarfon.
"Fel cyn-weithiwr yn Ferodo, fyswn i'n licio gweld rhywbeth yn digwydd ar y seit, sy'n brown-site ac yn crio allan am rywbeth yna, ond mae hwn hollol allan o'i le," meddai.
"Da ni'm yn gwbod am y twrw na be sy'n mynd i fod yn mynd ymlaen yna."

Mae Gill Evans yn poeni am yr effaith y gall y cynlluniau gael ar "fywyd gwyllt a busnesau lleol"
Dywedodd Gill Evans o Gaeathro ei fod yn "bwysig iawn i Gaernarfon ac i bobl leol fod hyn ddim yn cario 'mlaen".
Mae'n poeni am yr "afiechydon" gall ddod o ddatblygu ar y safle oherwydd ei hanes gyda "stori tunelli o asbestos".
Dywedodd hefyd ei bod yn poeni am yr effaith y gall y cynlluniau gael ar "fywyd gwyllt a busnesau lleol".
"Pam bod rhaid i ni fod efo peth mor hyll â hyn mewn lle mor neis," meddai.
"Mae pethau fel hyn am ddifetha' fo."

"'Da ni isio neud o'n glir fod o ddim yn dod i Gaernarfon, mae 'na lefydd lot callach," meddai Emyr Davies, un o drefnwyr y brotest
Dywedodd Emyr Davies, un o drefnwyr y brotest ac aelod o'r grŵp Gwarchod y Fenai, mai bwriad y brotest yw i "godi ymwybyddiaeth am brosiect sy'n mynd i gael effaith andwyol iawn ar y gymuned".
Mae Mr Davies yn cwestiynu natur y swyddi a fydd yn cael eu creu gan y ganolfan ddata.
"Maen nhw'n dweud 200 o swyddi... ond fydd o wir yn jobsys i bobl leol? Dim yr adeiladwyr lleol fydd yn adeiladu'r kit specific iawn yma," meddai.
"Fydd na arbenigwyr yn dod i fewn. Ella fydd na jobs fel security guards yn mynd ond ydio'n werth y risg o be 'da ni'n edrych ar golli - y sŵn mae o'n greu, y gwres, yr effaith ar y tirlun.
"'Da ni isio neud o'n glir fod o ddim yn dod i Gaernarfon, mae 'na lefydd lot callach - mae hyn i fod ar industrial estate neu rhywle fel 'na."

"Mae llawer o bethau yn poeni fi am y cynlluniau," meddai Liz Saville-Roberts
Dywedodd Liz Saville-Roberts, AS Dwyfor Meirionydd, "bod llawer o bethau yn poeni fi am y cynlluniau".
"Mae'r safle ei hun wrth ymyl y Fenai, maint y safle. Mae 'na gwestiynau amgylcheddol am ddefnydd o'r dŵr, y defnydd o drydan," meddai.
"Ond hefyd wrth gwrs, beth sy'n mynd i ddigwydd i'r asbestos a'r sylweddau llygreddol sydd ar y safle - dwi'n bryderus iawn am be all ddigwydd hefo rheini."
Mae'r cynlluniau yn "ddi-drefn", meddai, gan ychwanegu bod Cymru yn "effro iawn i gael diwydiannau fel hyn wedi'u lleoli arnom ni heb fawr o ddweud o be sy'n digwydd ynddyn nhw a'r elw yn mynd o Gymru".

Yn eu hymgysylltiad â'r gymuned leol, dywedodd Gwelyfenai y byddai'r prosiect yn "trawsnewid ac yn adfywio ffatri Ferodo – sydd wedi bod yn adfeiliedig ers amser maith – a'r tir cyfagos, gan gynnwys hen safle tirlenwi a thir halogedig, a dod â'r ardal yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol".
Mae'r cwmni'n dweud y byddai'r cynllun yn "sicrhau dyfodol y safle fel canolbwynt pwysig ar gyfer diwydiant ac arloesedd" a fyddai'n helpu i "wella gwasanaethau digidol sy'n rhan annatod o fywyd modern".
Ychwanegodd y cwmni fod y cynlluniau yn "sicrhau bod yr ardal gyfagos a llwybr beicio a throed Lôn Las Menai yn parhau i gael eu defnyddio, ac nad oes effaith ormodol ar Afon Menai a'r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig cysylltiedig".
Dywedodd y byddai'r ganolfan yn cael ei rheoli mewn ffordd gynaliadwy ac yn cael ei phweru'n rhannol gan ffynonellau adnewyddadwy lleol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2025


