Peidiwch cwestiynu fy ymroddiad i Gymru - Craig Bellamy

Craig Bellamy yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer Cynghrair y Cenhedloedd.Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mi gafodd Craig Bellamy ei benodi yn rheolwr ar Gymru yn 2024

GanOwain Llyr
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

"Peidiwch â chwestiynu fy ymroddiad i'r swydd."

Mi'r oedd yn rhaid i Craig Bellamy amddiffyn ei hun pan gyhoeddodd ei garfan ar gyfer y gemau yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Ar ôl methu â chyrraedd Cwpan y Byd ym mis Mawrth fe ddywedodd ei fod yn bwriadu parhau fel rheolwr Cymru tan Euro 2028, ond fe ddaeth yn agos iawn at ymuno gyda Burnley dros yr haf.

Mae Bellamy yn mynnu ei fod wedi dewis aros gyda Chymru, a'i fod wedi gwrthod y cyfle i symud i Turf Moor.

Er hynny mae rhai cefnogwyr a chyn-chwaraewyr wedi cael eu siomi ei fod wedi ystyried gadael, yn enwedig ar ôl disgrifio ei swydd fel "yr un orau yn y byd".

Lle felly mae hyn yn gadael Bellamy cyn yr ymgyrch yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd?

Disgrifiad,

Ben Davies ar chwarae'n erbyn Ronaldo

Er yr esboniad gan Bellamy am be ddigwyddodd dros yr haf, dydy pawb heb eu plesio.

"Mae'r cwmwl dal yn mynd i fod yno ar ddechrau'r ymgyrch," yn ôl cyn-ymosodwr Cymru, Malcolm Allen.

"Dwi'n deall pam ei fod o, o ran parch, wedi siarad 'efo Burnley.

"Y broblem sydd gan Bellamy ydy y dylse fo fod wedi dweud yn syth: 'Na, dwi'm eisiau'r swydd 'ma, dwi'n aros efo Cymru'.

"'Swn i byth yn cwestiynu ei ymroddiad oherwydd y person ydy o, ond mi 'nath o gamgymeriad mawr yn peidio dod allan yn syth a deud fod ei galon gyda Chymru."

Craig Bellamy ar ochr y cae wrth i Gymru golli'n erbyn Bosnia-Herzegovina yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd. Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bellamy ar ei ben-gliniau wrth i Gymru golli'n erbyn Bosnia-Herzegovina yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd

Yn y pen draw mae pêl-droed yn gêm syml.

Mae cefnogwyr yn hapus os yw eu tîm yn ennill gemau. Os yw rheolwr o dan bwysau, y peth gorau mae'n gallu ei wneud ydy cael rhediad da o ganlyniadau.

Dwi ddim yn awgrymu o gwbl fod Bellamy o dan bwysau - tydi o ddim. Mae ganddo berthynas dda gyda phawb o fewn Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Ond ers curo Gogledd Macedonia 7-1 nôl ym mis Tachwedd 2025 dydy Cymru heb ennill gêm. Pedair gêm heb fuddugoliaeth - gan gynnwys y golled ar giciau o'r smotyn yn erbyn Bosnia-Herzegovina yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd.

Er mwyn tawelu'r rhai sydd wedi bod yn feirniadol ohono am 'fflyrtian' gyda Burnley, mi fyddai'n gallu gwneud gyda chwpl o ganlyniadau da yn ystod y ddeufis nesaf.

Cristiano Ronaldo yn chwarae dros Bortiwgal yng Nghwpan y Byd 2026. Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cristiano Ronaldo wedi sgorio 146 o goliau dros Bortiwgal

Mae Cymru'n falch i fod n'ôl yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd.

Ar y cae mae'n gyfle i brofi eu hunain yn erbyn rhai o dimau gorau Ewrop, ac oddi ar y cae mi fydd y gymdeithas yn elwa'n ariannol.

Ond y broblem o chwarae yn yr haen uchaf yw ei bod hi'n anoddach ennill gemau.

Y tro diwethaf i Gymru chwarae ar y lefel yma yn 2022, fe gollon nhw chwech allan o chwech.

Portiwgal, Denmarc a Norwy fydd eu gwrthwynebwyr y tro hwn, sy'n golygu y bydden nhw'n wynebu rhai o'r ymosodwyr gorau'n y byd.

Mae'r bytholwyrdd Cristiano Ronaldo yn dal i chwarae dros Bortiwgal, tra bod Erling Haaland yn beiriant sgorio goliau i Norwy.

Wrth gwrs ei bod hi'n bosibl i Gymru achosi sioc neu ddwy yn yr ymgyrch a chael buddugoliaethau cofiadwy.

Ond ar y llaw arall mae'n ddigon posibl y gallen nhw golli'r chwe gêm. Blwyddyn gyfan heb fuddugoliaeth - efallai y byddai ychydig o bwysau arno wedyn.

Harry Wilson yn dathlu sgorio'n erbyn Gogledd Macedonia. Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Harry Wilson wedi sgorio naw gôl dros Gymru ers i Bellamy gael ei benodi'n rheolwr

Pan yn chwarae'n erbyn rhai o dimau gorau'r byd mae angen pawb yn ffit ar Gymru. Yn anffodus maen nhw wedi colli pedwar chwaraewr pwysig oherwydd anafiadau.

Ers i Bellamy gael ei benodi does 'na neb wedi bod yn fwy dylanwadol na Harry Wilson – gan greu a sgorio mwy o goliau na neb arall yn y crys coch.

O le ddaw'r creadigrwydd yn ei absenoldeb? Mi fydd 'na fwy o bwysau felly ar ysgwyddau Dan James, David Brooks, Brennan Johnson a Sorba Thomas.

Dydy Joe Rodon a Dylan Lawlor ddim ar gael yng nghanol yr amddiffyn, tra bod y golwr Karl Darlow hefyd wedi tynnu nôl o'r garfan.

Mae disgwyl i Danny Ward ddechrau yn y gôl – ond mae'n ail ddewis yn Wrecsam bellach a heb chwarae ryw lawer y tymor yma.

Yng nghanol yr amddiffyn wedyn mae Ben Davies yn siŵr o ddechrau – ond mi fydd yn rhaid bod yn ofalus ohono ar ôl iddo dorri ei ffêr yn gynharach 'leni. Ben Cabango a Chris Mepham ydi'r opsiynau eraill.

Craig Bellamy yn ystod sesiwn ymarfer Cymru. Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bellamy yn arwain sesiwn ymarfer Cymru

Does 'na ddim dwywaith amdani mai dyma'r cyfnod mwyaf heriol i Craig Bellamy ers iddo gael ei benodi'n rheolwr Cymru.

Cefnogwyr yn cwestiynu ei ymroddiad, colli chwaraewyr pwysig i anafiadau a gemau hynod o heriol o'i flaen.

Ond pwy a ŵyr efallai mai'r ddeufis nesaf fydd y cyfnod gorau o'i deyrnasiad hyd yn hyn.

Mi fase cwpl o ganlyniadau positif yn newid y naratif yn gyfan gwbl, ac yn galluogi pawb i fynd mewn i rowndiau rhagbrofol Euro 2028 y flwyddyn nesaf yn llawn hyder.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.