A ddylai cyfryngau cymdeithasol gael eu gwahardd o'r dosbarth i blant dan 16?

Teimladau cymysg sydd gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd am gyfyngu eu defnydd o gyfryngau cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Mae athrawon a disgyblion wedi bod yn rhannu eu barn am gyfyngu neu wahardd cyfryngau cymdeithasol i bobl ifanc dan 16, wrth i broses ymgynghori Llywodraeth y DU ddod i ben.
Wrth ymateb i ymchwil gan BBC Cymru, dywedodd un pennaeth fod "cyfryngau cymdeithasol wedi bod "yn drychineb i bobl ifanc", tra soniodd un arall bod yna broblem o ran "mynediad at ddeunydd amhriodol i feddyliau ifanc".
Ond, roedd rhai yn credu y byddai gwaharddiad yn anodd i'w weithredu ac yn gweld agweddau cadarnhaol i rôl cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod "wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i warchod plant a phobl ifanc" rhag yr effeithiau niweidiol a'i fod yn aros am ganlyniad ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae gweinidogion Llywodraeth y DU wedi awgrymu bydd yna gyfyngiadau newydd hyd yn oed os nad yw'n mynd mor bell â gwaharddiad
Mae'r ymgynghoriad, sy'n cau ddydd Mawrth, hefyd yn ystyried mesurau i atal prosesau ar y llwyfannau sy'n annog pobol i aros arnynt a mynd yn gaeth.
Fel rhan o ymchwil ehangach i bolisiau ffonau symudol ysgolion fe ofynnodd BBC Cymru i arweinwyr ysgolion uwchradd a phob oed Cymru am sylwadau am wahardd cyfryngau cymdeithasol i bobl ifanc o dan 16.
Atebodd 72, gyda'r mwyafrif yn nodi pryderon am effaith y llwyfannau ar ddisgyblion ac yn cefnogi mwy o gyfyngiadau.
"Gallaf ond gweld hyn yn symudiad positif am nad oes digon o reolaeth gan y llywodraeth ar yr hyn gall person edrych arno ar y rhwydweithiau hyn," meddai un ymateb.
'Arwain at lawer iawn o fwlio'
Dywedodd un arall bod "nifer o broblemau a gwrthdaro yn codi oherwydd camddefnyddio cyfryngau cymdeithasol" ac ym marn arweinydd ysgol arall, dydi'r bobl ifanc ddim yn "ddigon aeddfed ac mae'n arwain at lawer iawn o fwlio a chamddefnydd difrifol".
"Byddwn o blaid hyn ond mae angen cydnabod bod effeithiau cadarnhaol yn bodoli o ran defnydd cyfryngau cymdeithasol," meddai sylw arall.
Roedd eraill yn llai parod i wahardd, gan fod cyfryngau cymdeithasol yn rhan annatod o fywydau pobl ifanc a'r ffordd y maen nhw'n cyfathrebu ac yn gallu cael ei ddefnyddio'n gadarnhaol i adolygu neu gymdeithasu.
A yw'n syniad da gwahardd cyfryngau cymdeithasol i blant?
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
Plant o flaen sgrîn am o leiaf saith awr y dydd - arolwg
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2025
Dywedodd Sofia, 13, fod bwlio yn gallu digwydd ar gyfryngau cymdeithasol a bod plant yn gallu dod ar draws pethau anaddas.
"Ond ar y llaw arall ni angen edrych ar y pethau da amdano fe hefyd", meddai.
Dywedodd bod e'n gyswllt pwysig i rai plant a'i fod yn rhoi llais iddyn nhw ar faterion sy'n effeithio ar eu bywydau.
"Yn hytrach na cymryd e' [cyfryngau cymdeithasol] i ffwrdd, ni angen mwy o awareness," ychwanegodd.
Mae Harri, 14, yn credu bod angen trin y platfformau yn wahanol: "Falle cadw rhai, ond gwahardd rhai tan oedran mwy perthnasol," meddai.
"Mae pethau fel Snapchat ac Instagram.... mae pobl yn cyfathrebu arno fe lot mwy.
"Does dim diddordeb gen i gael TikTok oherwydd dwi ddim eisiau just sgrolio ar fy ffôn am oriau a just gwylio fideos anaddas, neu does dim pwynt gyda nhw o gwbl."
'Pawb ar eu ffonau yn lle mas ar y strydoedd'
Credu bod angen gwahardd mae Jamie, 14, oherwydd yr effaith y mae'n gallu cael ar iechyd meddwl pobl ifanc.
Dywedodd fod y cyfnod clo wedi bod yn allweddol wrth hybu dibyniaeth ar gyfryngau cymdeithasol.
"Dyna pryd oedd TikTok wedi mynd yn fwy poblogaidd.
"Roedd pawb wedi dechrau gwneud fideos dawnsio ac roedd pawb ar eu ffonau nhw yn lle mas ar y strydoedd yn chwarae gemau."

Mae rheoli defnydd eu plant o gyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn her i rieni, meddai Sarah Stephens
Yn ôl Sarah Stephens, athrawes yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, mae yna ormod o gyfrifoldeb ar blant i reoli eu defnydd o gyfryngau cymdeithasol.
"Dylai bod y platfformau yma sy'n gwneud miliynau o bunnoedd allan o'r plant yma yn sicrhau bod e'n ddiogel iddyn nhw ddefnyddio."
Ond mae hi'n amheus ai gwaharddiad yw'r ateb ac yn credu y byddai rhai rhieni yn dal i sefydlu cyfrifon dros eu plant.
"Mae rhieni allan o atebion nawr ar beth i wneud, achos mae'r plant yma yn gaeth yn aml i'r llwyfannau yma," ychwanegodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.