Tân diwydiannol mawr yn llosgi mewn gorsaf bŵer ger y Barri

Mae cyngor i drigolion gerllaw i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau, yn sgil y mwg
- Cyhoeddwyd
Mae tân diwydiannol mawr yn llosgi yng Ngorsaf Bŵer Aberddawan ym Mro Morgannwg.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw yno am 09:32 fore Iau, gyda chriwiau o 15 o orsafoedd gwahanol yn bresennol.
Dywedodd rheolwr y grŵp, Tony Redman fod criwiau'n parhau i fynd i'r afael â'r tân ger y Barri brynhawn Iau.
"Rydym yn cynghori trigolion i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau.
"Er bod cyfeiriad y gwynt ar hyn o bryd yn cludo'r rhan fwyaf o'r mwg allan i'r môr, gallai'r mwg effeithio ar bobl mewn ardaloedd gan gynnwys Y Rhws a Ffontygari."
Diolchodd y gwasanaeth i'r cyhoedd am eu cydweithrediad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.