'Rhaid i gwmnïau a phobl leol gael cyfran deg o gyfleoedd niwclear newydd'

- Cyhoeddwyd
Mae cyfleoedd i gwmnïau yng Nghymru i elwa o'r gadwyn gyflenwi a chytundebau gwerth dros £1.4bn dros y flwyddyn i ddod... gyda mwy i ddilyn.
Dyna'r neges gan y cwmni sy'n gobeithio datblygu gorsaf ynni niwclear newydd ym Môn.
Fis Tachwedd y llynedd daeth cadarnhad mai gogledd yr ynys byddai'r lleoliad ar gyfer pwerdy niwclear newydd - sef y tri adweithydd modiwlar bychan [SMR] cyntaf i'w hadeiladu yn y DU.
Bydd cynhadledd cyflenwyr ym Môn ddydd Iau, cyfle i gwmnïau lleol a chenedlaethol glywed mwy am yr hyn sydd i ddod fel rhan o'r gadwyn gyflenwi i gynllun Gwyndod.
Mae disgwyl i tua 600 o bobl fynychu dros ddeuddydd, yn cynrychioli dros 400 o gwmnïau.
Ond tra bod disgwyl i unrhyw fuddion ariannol ymestyn ymhell y tu hwnt i Gymru, mae Aelod Seneddol yr ynys hefyd wedi galw am sicrhad bod "busnesau Cymreig a phobl leol yn cymryd rhan uniongyrchol" yn y broses.
Yn ôl mudiad sy'n gwrthwynebu'r cynllun, "trychineb llwyr ydy niwclear, ar sawl ystyr", gan gwestiynu faint o fudd byddai'r cynllun yn ei olygu i'r ardal mewn gwirionedd.

Daeth y gwaith o gynhyrchu ynni i ben yn Wylfa yn 2015
Er bod sawl cam cynllunio a rheoleiddio i'w cwblhau cyn i unrhyw waith adeiladu ddechrau ar unrhyw gynllun o'r fath ym Môn, mae cwmni Rolls Royce - sy'n partneru gyda chwmni GBE-N - yn dweud bod y broses o recriwtio a denu busnesau lleol eisoes ar y gweill.
Bellach mae 10 prentis Rolls-Royce wedi dechrau ar gwrs peirianneg yng Ngholeg Menai, Llangefni, fel rhan o'r broses o baratoi gweithlu'r dyfodol.
Ym mis Ebrill fe gafodd Rolls-Royce SMR ei ddewis gan Great British Energy-Nuclear fel un o'r cwmnïau fydd yn datblygu adweithyddion SMR yn y DU.
Mae'r cwmni'n gobeithio adeiladu eu gorsaf gyntaf ger safle hen Wylfa, gyda'r cynllun bellach yn cael ei adnabod fel Gwyndod.
Byddai'r cynllun yn creu 3,000 o swyddi lleol a 5,000 o swyddi ychwanegol yn genedlaethol, meddai'r datblygwyr, gyda'r bwriad o gynhyrchu trydan erbyn canol y 2030au.

"Mae yna nifer o gyfleoedd i'r gadwyn gyflenwi, a mae yna lwyth o gwmnïau mawr a bach sydd eisiau bod yn rhan o'r prosiect yma," meddai Iolo James, rheolwr cyfathrebu Rolls-Royce SMR.
"Mae'r cyfnod yma'n hollbwysig iddyn nhw ddeall beth yw'r cyfleoedd yna, ac i ni i benderfynu pwy yw'r cwmnïau, pwy yw'r bobl orau i ni weithio gyda nhw."

"Mae yna lwyth o gwmnïau mawr a bach sydd eisiau bod yn rhan o'r prosiect yma," meddai Iolo James
Ychwanegodd bod cannoedd o gwmnïau'n dod i Goleg Menai ar gyfer y gynhadledd, gyda'r bwriad o esbonio'r cyfleoedd sydd ar gael.
"Mae'r ffaith bod cwmnïau lleol eisiau bod yn rhan o'r prosiect yma... a mae yna gwmnïau mawr a bach yn lleol fydd eisiau gwybod mwy am beth rydym ni'n ei wneud yma.
"Ein neges iddyn nhw yw ein bod ni yma i wrando a'n bod ni eisiau dysgu mwy am beth maen nhw'n gallu ei wneud ac iddyn nhw ddysgu gyda ni beth allwn ni ei gynnig iddyn nhw hefyd."
'Arwydd bod rhywbeth yn digwydd'
Wrth i'r cwmni geisio adeiladu'r gadwyn gyflenwi, maen nhw hefyd wedi cyllido cynllun hyfforddi gweithlu'r dyfodol.
Gyda thua 300 wedi ymgeisio am le ar y cwrs, mae mwyafrif llethol y prentisiaid yn byw ym Môn, gyda'r gweddill yng Ngwynedd.
Yn ôl Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, Aled Jones-Griffith, mae'r cynllun prentisiaeth yn "arwydd bod y prosiect yn symud ymlaen", er bod gwaith sylweddol eto i'w wneud.
"Mae'n gam cyntaf mewn taith fydd yn un hir iawn... 'da ni'n gwybod hynny," meddai.
"Ond mae'r ffaith bod ganddon ni rŵan 10 prentis hefo Rolls-Royce SMR yn golygu bod ni'n cychwyn ar y siwrna yna.
"Mae'n arwydd bod yna rhywbeth yn digwydd a bod yna ddyfodol disglair iawn o flaen nifer o bobl ifanc ar yr ynys a'r tu hwnt."

"Mae'n gam cyntaf mewn taith fydd yn un hir iawn," meddai Aled Jones-Griffith
Er yr holl obeithion dros nifer o flynyddoedd, ni chafodd cynllun Wylfa Newydd ei wireddu er gwaethaf blynyddoedd o waith paratoi gan gwmnïau Horizon a Hitachi.
Ond ychwanegodd Mr Jones-Griffith ei fod yn "fwy hyderus" y tro yma, gan fod y "model ariannu yn ddipyn gwahanol i fuddsoddiad preifat".

Mae'r prentisiaid Euros a Cari yn gweld potensial mewn prosiect sy'n agos i'w cartrefi
Mae'r prentisiaid ei hunain hefyd yn gweld potensial mewn prosiect o fewn eu milltir sgwar.
Dywedodd Euros, 17 oed o Gricieth, y byddai gweithio ar brosiect Gwyndod yn apelio ato yn y dyfodol.
"Mae mor lleol, fasa'n dda cael adeiladu fy hun i fyny i weithio yn fanna," meddai.
"A dwi'n meddwl bod o'n gyfle da i ni.
"'Da chi'n cael cyfle mor fawr sy'n mynd i fod efo gymaint o jobs yn y dyfodol.
"Mae o fatha' Trawsfynydd, nath o roi gymaint o jobs i bobl leol, o gwmpas lle dwi'n byw."
Roedd Cari, 17, hefyd o'r farn bod y posibilrwydd o gael gyrfa yn y diwydiant, a hynny yn yr ardal leol, yn ddeniadol.
"Mae'n lleol, does 'na'm lot yn digwydd yma yn y gogledd, felly dwi'n meddwl bod cael yr opsiwn yn really da," meddai.

Ond nid pawb sy'n gweld Gwyndod, nac unrhyw ddatblygiad niwclear, fel y ffordd orau ymlaen i economi'r ynys.
Mae mudiad PAWB (Pobl Atal Wylfa B) yn cwestiynu'r budd a ddaw i'r ynys mewn gwirionedd, o ystyried nad yw'r cynllun wedi ei gadarnhau eto.
Dywedodd Robat Idris o'r mudiad bod "pobl yn Sir Fôn yn croesawu swyddi yn y pendraw, does dim rhaid iddyn nhw fod yn swyddi niwclear".
"Da ni wedi bod, genhedlaeth yn ôl, yn hyfforddi pobl ifanc i weithio'n y diwydiant yma, a maen nhw wedi gadael, y rhan fwyaf ohonyn nhw.
"Felly pam gwneud yr un peth eto? Rhoi yr addewid, codi gobeithion pobl ifanc, ac ella cael eu siomi yn y pendraw.
"A hefyd mae 'na broblem foesol yn fa'ma, pam 'da ni'n gwneud hyn pan allwn ni ddarparu swyddi llawer iawn gwell ac sydd er lles pobl yr ynys 'ma?"
Pobl ifanc Môn yn dewis Gwyndod fel enw pwerdy niwclear newydd
- Cyhoeddwyd26 Mehefin
Ond yn croesawu'r cyfle i fusnesau lleol i elwa o'r cynllun, dywedodd Aelod Seneddol Môn y bydd rhai angen cymorth i fod mewn sefyllfa i elwa o unrhyw ddatblygiad.
Mae hyn, medd Llinos Medi, yn cynnwys "gwneud cadwyn gyflenwi'r prosiect mor agored â phosibl i fentrau bach a chanolig lleol".
"Fel prosiect sydd wedi'i leoli yng Nghymru, mae'n bwysig bod busnesau Cymreig a phobl leol yn cymryd rhan uniongyrchol," meddai.

"Fel prosiect sydd wedi'i leoli yng Nghymru, mae'n bwysig bod busnesau Cymreig a phobl leol yn cymryd rhan uniongyrchol," meddai Llinos Medi
"Er bod yr uchelgais o sicrhau bod 70% o gynnwys y prosiect yn dod o'r DU i'w groesawu, rhaid cael strategaeth glir hefyd i sicrhau bod cwmnïau ar Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru yn cael cyfran deg o'r cyfleoedd economaidd sy'n dod oherwydd Gwyndod.
"Er mwyn cefnogi busnesau lleol i gystadlu am gontractau'r prosiect, mae angen eu cynnwys yn gynnar er mwyn iddynt wybod am y cyfleoedd sydd ar gael.
"Bydd angen cymorth ar rai i gyrraedd y safonau diwydiant sy'n ofynnol gan y sector niwclear wrth wneud cais am waith."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.