Achosion tafod glas Cymru wedi cynyddu bum gwaith mewn cyfnod byr

Defaid/Buwch Ddu GymreigFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae defaid a buchod ymhlith yr anifeiliaid sy'n cael eu heffeithio gan y clefyd

GanGwydion Edwards
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae 498 o achosion o'r clefyd Tafod Glas serotype 3 (BTV-3) wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru gan y llywodraeth.

Daw'r ffigwr yma'n dilyn datganiad ganddyn nhw ar 11 Medi oedd yn dweud bod mwy na 100 achos yng Nghymru ar y pryd, sy'n golygu bod y ffigwr wedi cynyddu'n sylweddol mewn llai na deufis.

Mae'r clefyd yn medru effeithio ar ddefaid, gwartheg, ceirw, geifr a hyd yn oed gŵn - os ydyn nhw'n bwyta rhywbeth sydd wedi cael ei heintio.

Caiff ei ledaenu'n bennaf gan frathiadau gwybed ac os ydych yn gweld arwyddion o'r clefyd, dolen allanol mewn anifail, yna mae'n rhaid adrodd hynny i'r awdurdodau - mae'n anghyfreithlon peidio â gwneud.

Y cyngor yw i unrhyw un sy'n cadw anifeiliaid stoc i'w brechu rhag y clefyd a thrafod gyda milfeddygon.

Dr Richard IrvineFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Brechu ydy'r unig fesur ymarferol i amddiffyn da byw rhag clefyd y Tafod Glas yn yr hirdymor," meddai Dr Richard Irvine

Mae'r ffigwr yn gywir hyd at 26 Hydref ac mae'n "cynyddu". Mae disgwyl iddo basio'r 500 yn fuan, meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

Yn ôl prif swyddog milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine, "brechu ydy'r unig fesur ymarferol i amddiffyn da byw rhag clefyd y tafod glas yn yr hirdymor".

Bydd y clefyd yn "parhau dros y gaeaf, felly mae'n hanfodol bod yn barod rhag ofn iddo ddychwelyd y flwyddyn nesaf".

Gwen Williams
Disgrifiad o’r llun,

"'Da ni'n gweld bod o'n effeithio defaid ychydig bach yn waeth na gwartheg ar hyn o bryd ond mae'r arwyddion yn gallu bod yn debyg," meddai Gwen Williams

Dywedodd y milfeddyg Gwen Williams o Wern Vets: "Mae blue tongue yn feirws sy'n gallu effeithio ar ddefaid a gwartheg.

"'Dan ni'n gweld bod o'n effeithio defaid ychydig bach yn waeth na gwartheg ar hyn o bryd ond mae'r arwyddion yn gallu bod yn debyg, gan gynnwys ulcerations a chwyddo o'r traed, y geg, a'r gwefusau.

"Mae'n gallu bod reit subtle weithie, hyd yn oed just 'chydig bach o stiffness i ddefaid fel maen nhw'n cerdded.

"Weithiau hefo gwartheg 'da chi'n gweld ulcerative lesions ar yr udder hefyd felly mae 'na lot fawr o bethau i edrych allan amdano.

"Mae'n gallu effeithio ar fertility rates yr anifeiliaid, mae'n cael effaith ariannol ac mae'n beth reit stressful i ffermwyr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.