Darlledu gemau'r Cymru Premier ar y BBC yn 'gam sylweddol ymlaen'

Logo Cymru PremierFfynhonnell y llun, Cymru Premier
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gan BBC Cymru yr hawl i ddangos isafswm o 20 gêm bob tymor

  • Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru wedi dod i gytundeb gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) i ddarlledu dwsinau o gemau'r Cymru Premier dros y tair blynedd nesaf.

Mae'r cytundeb yn cynnwys hawl i ddarlledu isafswm o 20 gêm byw bob tymor - gyda phob un yn cael eu dangos ar wefan ffrydio BBC iPlayer.

Y gêm gyntaf i gael ei dangos fel rhan o'r cytundeb newydd fydd Y Barri yn erbyn Met Caerdydd am 12:30 ddydd Sadwrn, 15 Awst.

Dywedodd pennaeth cynghreiriau domestig CBDC, Jack Sharp fod "y cytundeb yma yn gam sylweddol ymlaen wrth i ni geisio tyfu proffil y Novira Cymru Premier".

"Bydd hyn yn ein galluogi i gyrraedd rhagor o gefnogwyr ar hyd Cymru a gweddill y DU," meddai.

Fe fydd y gemau ar y BBC yn ychwanegol i'r rhai sy'n cael eu darlledu gan Sgorio ar S4C.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.