Cyhoeddi anthem newydd i bêl-droed Cymru gan Ifan Pritchard

Dywedodd Ifan Pritchard ei fod yn "arbennig gwybod y bydd y gân yn cael ei chlywed ar gaeau ledled y wlad bob penwythnos"
- Cyhoeddwyd
Mae prif gynghrair bêl-droed Cymru wedi lansio ei hanthem swyddogol gyntaf fydd yn cael ei chwarae ar ddechrau pob gêm eleni.
Cafodd y gân 'Gorau Chwarae Cyd Chwarae' ei chomisiynu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) i nodi ei phen-blwydd yn 150 oed.
Prif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard, sy'n perfformio anthem ddwyieithog newydd y Novira Cymru Premier, sydd i fod i "adlewyrchu'r undod a'r cynhwysiant sydd wrth galon y gêm yng Nghymru".
Dywedodd Ifan ei fod yn "fraint enfawr cael fy ngwahodd i ysgrifennu a pherfformio cân wedi'i hysbrydoli gan ymadroddiad sy'n golygu cymaint i bêl-droed Cymru".
Mi fydd y gân yn cael ei chwarae bob penwythnos gyda'r holl glybiau'n cerdded allan i "gerddoriaeth sydd wedi'i hysbrydoli gan y gwerthoedd sydd wedi siapio pêl-droed yng Nghymru ers dros ganrif," meddai CBDC.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn datganiad dywedodd CBDC: "Ers cenedlaethau, mae'r ymadroddiad wedi cynrychioli gwerthoedd pêl-droed yng Nghymru: undod, gwaith tîm ac ymdrech ar y cyd."
Ond er bod y geiriau'n cael eu cysylltu â Chymdeithas Bêl-droed Cymru erbyn hyn, dywedon nhw fod yr ymadrodd yn tarddu o faes pêl-droed domestig Cymru yn ystod y 1920au.
"Cafodd ei fabwysiadu gan Glwb Pêl-droed Pontyclun fel mynegiant o bwysigrwydd chwarae gyda'n gilydd.
"Thomas Edgar Russell, gôl-geidwad ac ysgrifennydd y clwb ar y pryd, oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r ymadrodd."
Aeth Russell ymlaen i fod yn ffigwr dylanwadol o fewn Cymdeithas Bêl-droed Cymru, gan wasanaethu fel Llywydd rhwng 1967 a 1972.
Dywedodd Jack Sharp, Pennaeth y Cynghreiriau Domestig: "Mae'r Novira Cymru Premier o hyd wedi bod yn ymwneud â dod â chymunedau ynghyd drwy bêl-droed, felly mae'n gwbl addas bod ein hanthem swyddogol wedi'i hysbrydoli gan un o'r ymadroddion mwyaf eiconig yn hanes pêl-droed Cymru.
"Mae gwreiddiau 'Gorau Chwarae Cyd Chwarae' yn y gêm ddomestig, ac mae hynny'n ei gwneud yn anthem berffaith i'n cynghrair."
O'r Cymru Premier i greu hanes yng Nghwpan yr FA
- Cyhoeddwyd8 Ionawr
A welwn ni'r Haaland neu Mbappé nesaf yng Nghaernarfon eleni?
- Cyhoeddwyd6 Ionawr
Cafodd y gân ei pherfformio gan 'Y Canol Cae', sef prosiect artistig y cyfansoddwr Ifan Pritchard.
Dywedodd ei fod yn "yn fraint enfawr cael fy ngwahodd i ysgrifennu a pherfformio cân wedi'i hysbrydoli gan ymadroddiad sy'n golygu cymaint i bêl-droed Cymru".
"O'r cychwyn cyntaf, roedd yn bwysig bod yr anthem yn cael ei pherfformio yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan adlewyrchu'r cymunedau, y diwylliannau a'r bobl sy'n gwneud pêl-droed yng Nghymru mor arbennig.
"Mae 'Gorau Chwarae Cyd Chwarae' yn fwy nag arwyddair. Mae'n neges am bobl yn dod ynghyd, yn cefnogi ei gilydd ac yn cyflawni rhywbeth mwy fel tîm."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.