Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer yn cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo

Daeth Syr Keir Starmer yn Brif Weinidog y DU ym mis Gorffennaf 2024, pan enillodd y Blaid Lafur yr etholiad cyffredinol gyda mwyafrif ysgubol
- Cyhoeddwyd
Mae Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad fel Prif Weinidog y DU, ar ôl colli cefnogaeth rhai o aelodau allweddol y Blaid Lafur.
Daw ei gyhoeddiad yn dilyn cyfnod cythryblus i'r llywodraeth, sydd ond mewn grym ers Gorffennaf 2024.
Dywedodd Starmer y byddai'n parhau yn y swydd wrth i'r blaid ddewis ei olynydd.
Wedi canlyniadau trychinebus i Lafur mewn etholiadau ar draws y DU, fe wnaeth dwsinau o ASau alw'n gyhoeddus am newid gan gynnwys - maes o law - aelodau amlwg o fewn y cabinet.
Fe wnaeth y pwysau gynyddu ar y prif weinidog wedi i gyn-Faer Manceinion, Andy Burnham ennill is-etholiad Makerfield ddydd Iau diwethaf, gyda'r disgwyl ei fod â'i fryd ar ei olynu yn Downing Street.

Roedd Andy Burnham yn Aelod Seneddol rhwng 2001 a 2017, cyn treulio naw mlynedd fel Maer Manceinion
Mr Burnham yw'r ffefryn amlwg i olynu Syr Keir, ond mae'n ansicr ar hyn o bryd a fydd cystadleuaeth iddo am arweinyddiaeth y blaid Lafur.
Mae'r cyn-ysgrifennydd iechyd Wes Streeting wedi dweud yn y gorffennol y byddai'n rhan o unrhyw ras arweinyddol pe bai Starmer yn mynd, ond dyw hi ddim yn glir a yw pethau wedi newid nawr bod Burnham yn Aelod Seneddol ac yn gymwys i'w herio.
Mae enw Angela Rayner - y cyn-ddirprwy brif weinidog - wedi cael ei grybwyll hefyd fel un allai fod eisiau'r arweinyddiaeth.
Mae'r stori yma newydd dorri a byddwn yn ychwanegu ati wrth i fanylion ein cyrraedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl

