Dau AS Llafur o Gymru yn galw ar Keir Starmer i ymddiswyddo

Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Syr Keir yn wynebu pwysau cynyddol o fewn ei blaid ei hun i ymddiswyddo,

  • Cyhoeddwyd

Mae dau Aelod Seneddol Llafur o Gymru wedi galw ar Brif Weinidog y DU Keir Starmer i ymddiswyddo.

Mae Ruth Jones a Tonia Antoniazzi ymhlith dros 50 o ASau Llafur sydd wedi galw ar eu harweinydd i ymddiswyddo.

Daw wedi i Lafur golli tir ar draws y DU mewn etholiadau yr wythnos diwethaf, gan gynnwys colli grym yng Nghymru am y tro cyntaf.

Dywedodd Ms Jones - cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ac AS Gorllewin Casnewydd ac Islwyn - bod Syr Keir wedi gwneud "gwaith gwych" ond hefyd "llawer o gamgymeriadau".

Ychwanegodd Ms Antoniazzi - AS Gŵyr - ei bod yn amser iddo "gamu o'r neilltu" fel prif weinidog.

Ysgrifennydd Cymru hefyd dan bwysau

Mae Syr Keir yn wynebu pwysau cynyddol o fewn ei blaid ei hun i ymddiswyddo, ond dydd Llun dywedodd y byddai'n profi'r rhai sy'n ei amau yn anghywir.

Fe wnaeth gydnabod bod ei lywodraeth wedi gwneud camgymeriadau, ond dywedodd eu bod "wedi cael y penderfyniadau mawr yn gywir".

Mae un AS Llafur wedi dweud wrth BBC Cymru y dylai Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens ymddiswyddo.

Dywedodd yr AS, oedd ddim eisiau cael ei enwi: "Dydw i ddim yn credu bod hi'n iawn i Eluned [Morgan] gymryd y cyfrifoldeb i gyd.

"Rwy'n credu y dylai Ysgrifennydd Cymru gymryd rhan o'r cyfrifoldeb hefyd - cael ei dal i gyfrif ac ymddiswyddo."

Ruth Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n credu ein bod ni angen iddo osod amserlen ar gyfer ymddiswyddo," meddai Ruth Jones

Yn ôl Ruth Jones, dyw'r prif weinidog "ddim yn torri trwodd ar y stepen drws fel arweinydd sydd â charisma".

Dywedodd ar BBC Radio Wales ddydd Llun: "Rwy'n credu ein bod ni angen iddo osod amserlen ar gyfer ymddiswyddo - nid eto, nid ar frys.

"Mae wedi gwneud gwaith gwych - mae wedi bod yno am chwe blynedd, wedi ein cael ni i mewn... gyda mwyafrif enfawr.

"Ond mae wedi gwneud nifer o gamgymeriadau, ac wedi gwneud sawl tro pedol."

Tonia Antoniazzi
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i Keir Starmer "gamu o'r neilltu fel prif weinidog mewn ffordd drefnus", meddai Tonia Antoniazzi

Dywedodd Tonia Antoniazzi ar ei chyfryngau cymdeithasol brynhawn Llun ei bod hi hefyd yn galw ar Syr Keir i fynd.

"Mae Syr Keir Starmer yn ddyn gonest sydd wedi arwain y Blaid Lafur trwy amseroedd anodd," meddai.

"Bydd rhai yn anghytuno, ond rydw i wirioneddol yn credu ei bod yn amser iddo gamu o'r neilltu fel prif weinidog mewn ffordd drefnus."

Ond mae yna aelodau Llafur sydd wedi cefnogi Syr Keir hefyd, gydag AS Aberafan Stephen Kinnock yn dweud fod angen "canolbwyntio llai ar bersonoliaethau unigol, a mwy ar wleidyddiaeth a pholisïau".

Ychwanegodd Carolyn Harris - AS Castell-nedd a Dwyrain Abertawe a dirprwy arweinydd Llafur Cymru - bod "unrhyw un sy'n credu bod nawr yn amser da i newid prif weinidog yn naïf a deluded."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.