'Ni dal yn aros am atebion ar ôl i'n babi farw noswyl Nadolig'

Wil, Brooke a Gwilym eu mab a fu farw yn 11 diwrnod oed
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gall yr erthygl hon beri gofid. Mae'n ymdrin â marwolaeth babi.
Noswyl Nadolig y llynedd cafodd byd Brooke a Wil Rees-Webb ei chwalu wrth iddyn nhw golli eu babi, Gwilym, yn 11 diwrnod oed.
Wrth iddyn nhw baratoi i nodi ei ben-blwydd cyntaf, mae'r cwpl o Bontypridd yn dal i aros am atebion am ei farwolaeth.
Mae elusennau colli babanod, Sands a Tommy's, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod rhieni sydd wedi colli plentyn yn cael cefnogaeth i gyfrannu at adolygiad i farwolaethau.
Dywedodd y llywodraeth eu bod yn "ymrwymedig i sicrhau bod gan bob rhiant a theulu sydd wedi colli plentyn fynediad at ofal o ansawdd uchel, cyson a charedig".
Rhieni yn 'brwydro' am atebion ar ôl colli eu babi noswyl Nadolig
Croesawodd Brooke a Wil, o Bontypridd, Gwilym Ioan i'r byd ar ôl genedigaeth Gesaraidd fis Rhagfyr.
"Pan gafodd Gwilym ei eni roedd e'n fabi iach a roedden ni'n hapus fod e yma yn ddiogel," meddai Brooke, 28, sydd, fel ei gŵr, yn gweithio i AS yn Senedd Cymru.
"Dros yr wythnos gyntaf roedd Gwilym yn gysglyd iawn, anodd ei ddeffro ac yn bwydo yn wael," meddai ei fam ond roedd gan y teulu ffydd yn y gweithwyr iechyd "i roi'r cyngor iawn".
Ond noswyl Nadolig bu farw Gwilym yn 11 diwrnod oed.

Roedd Gwilym Ioan yn fabi iach pan gafodd ei eni
Dywedodd Brooke bod ei gofnodion meddygol yn dangos ei fod wedi cael "haint difrifol babanod newydd-anedig".
"Ni'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn 'neud lot o ymchwiliadau ond ni wedi bod yn aros misoedd i gael unrhyw atebion," meddai Brooke.
"Mae'n really anodd. Roedden ni'n disgwyl yr adroddiad yma ym mis Mehefin ond ers hynny ni wedi cael delay ar ôl delay.
"Mae e'n anodd brwydro bob mis am adroddiad sy'n mynd i ddweud wrthot ti beth na'th ddigwydd i dy fabi ond ni bron flwyddyn nawr a ddim wedi cael unrhyw atebion."
Ychwanegodd Brooke bod petha yn "wirioneddol anodd" wrth iddyn nhw aros am e-byst a galwadau ffôn tra hefyd yn galaru.
Cafodd Brooke a Gwilym ofal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sy'n dweud eu bod yn parhau i gydymdeimlo â'r teulu.
Ychwanegodd llefarydd: "Gan fod ymchwiliad agored yn weithredol ni fyddai'n briodol i'r bwrdd iechyd wneud sylw."

Mae Georgia Stevenson yn gweithio i uned bolisi elusennau Sands a Tommy's
Roedd gan Gymru'r gyfradd uchaf o farwolaethau newydd-anedig yn y Deyrnas Unedig yn 2023 - 1.79 fesul 1000 o enedigaethau yn ôl ystadegau MBRACC-UK.
Yn 2024, mi oedd y ffigwr wedi cwympo i 1.49 fesul 1000 yn ôl y data diweddaraf.
"Hoffem i Lywodraeth Cymru osod targed i leihau marwolaethau yn ystod genedigaeth, marwolaethau newydd-anedig, a genedigaethau cyn-amser," meddai Georgia Stevenson, Pennaeth Uned Polisi elusennau Sands & Tommy's.
I "ddeall yn iawn beth sy'n digwydd", mae Sands yn galw am y data am farwolaethau newyddanedig a marwanedig i gael eu hystyried ochr yn ochr â "phrofiad cleifion a staff".
Ychwanegodd Ms Stevenson bod adolygiadau yn cael eu "dylanwadu'n drwm gan nodiadau clinigol sy'n un adroddiad o'r hyn a ddigwyddodd" ond mae hi'n credu y dylai llais rhieni gael yr un sylw.
"Nid ydym yn teimlo bod yr adolygiadau presennol yn rhoi rhieni wrth galon y broses honno," meddai.
"Yn rhy aml nid ydynt yn gallu, neu ddim yn teimlo eu bod yn gallu cymryd rhan yn y broses honno neu ddim yn teimlo bod eu barn yn cael sylw teg ac mae'n hynny gallu bod yn anodd i rieni sydd wedi colli babi."

Mae Ruth Mason o Ferthyr wedi defnyddio ei phrofiadau i gynorthwyo eraill
Dros y tair blynedd diwethaf mae Ruth Mason ym Merthyr wedi helpu rhieni sy'n galaru yn ne Cymru trwy grŵp cymorth elusen Sands.
Mae hi'n deall pa mor hanfodol yw cymorth, ar ôl i'w bechgyn, George a Henry, gael eu geni'n farw yn 2018.
Yn ei grwpiau dywedodd ei bod yn cwrdd â rhieni llawn "anobaith" ac yn dod ar draws "diffyg gofal galar priodol a thosturiol", yn ogystal â "diffyg cysondeb enfawr" ar draws byrddau iechyd.
"Rydym hefyd yn gweld teuluoedd yn defnyddio ein grŵp oherwydd nad oes dim byd arall ar eu cyfer.
"Rydym hefyd yn clywed cymaint am bobl nad ydynt yn derbyn canlyniadau ymchwiliadau ac ymholiadau i'w gofal yn ddigon buan ac mae hynny'n ychwanegu at drawma pobl."
Dywedodd ei bod yn "bryderus ac yn ofidus" bod rhieni galarus yn mynd trwy'r hyn a aeth hi drwyddo wyth mlynedd yn ôl.
Roedd Ruth yn cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud gan staff gofal iechyd, fel bydwragedd profedigaeth, yng Nghymru ond dywedodd "lle mae'n dda, nid oes digon ohono".
Dywedodd fod y cynghorydd profedigaeth cymwys a gefnogodd hi yn ystod ei cholled wedi "achub ei bywyd".
"Os oes un peth rydw i wedi'i ddysgu - mae gofal tosturiol yn gwneud gwahaniaeth mawr i deuluoedd."
'Ein mab 3 oed wedi marw ers dros flwyddyn a ni dal ddim yn gwybod pam'
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2025
'Ystafell a phopeth yn barod ond gadael yr ysbyty heb fabi'
- Cyhoeddwyd11 Hydref
Lansiwyd y Llwybr Cenedlaethol i Gymru ar gyfer Gofal mewn Profedigaeth, dolen allanol ym mis Mehefin gan ddarparu canllawiau ymarferol i weithwyr gofal iechyd yng Nghymru.
"Mae gennym fydwragedd profedigaeth sy'n gweithio ledled Cymru ond yn aml dim ond un sydd ymhob bwrdd iechyd," meddai Julie Richards, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) yng Nghymru.
"Mae'n adnodd bach iawn, cyfyngedig ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar hyn o bryd."
Ychwanegodd Ms Richards fod bydwragedd profedigaeth yn cynnig "gofal da, cydymdeimladol" i rieni sydd wedi colli plentyn a'r rhai sy'n disgwyl plentyn eto wedi hynny.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod colli babi yn un o'r profiadau mwyaf dinistriol y gall teulu fyth ei wynebu" a'u bod yn "ymrwymo i sicrhau fod pob rhiant a theulu" yn cael mynediad at "ofal o ansawdd uchel sy'n gyson ac yn dosturiol".
Ychwanegodd llefarydd: "Mae ein Llwybrau Cenedlaethol ar gyfer gofal mewn profedigaeth yn darparu dull cenedlaethol clir o ymdrin â'r gofal a'r cymorth y dylai teuluoedd eu derbyn yn dilyn colled yn ystod beichiogrwydd neu golli babi, ac rydym yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd, y Gwasanaeth Iechyd a Sands Cymru."
Dywedodd y Llywodraeth eu bod nhw yn "cydnabod y galwadau am dargedau cenedlaethol i leihau marwenedigaethau a marwolaethau newyddanedigion, a'u bod yn ystyried y rhain yn ofalus".
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.