Y rhestrau aros hiraf am gael eu datrys 'yn sicr mewn llai na blwyddyn'

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Ni 'di dweud y byddwn yn lleihau'r cyfnodau aros hiraf i sero o fewn misoedd – yn sicr mewn llai na blwyddyn," meddai Rhun ap Iorwerth

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd y rhai hynny sydd ar y rhestrau aros hiraf yn derbyn triniaeth o fewn "llai na blwyddyn".

Ers i Blaid Cymru ddod i rym, mae gweinidogion wedi addo y bydd pawb sydd ar restr aros o ddwy flynedd neu fwy yn cael eu trin o fewn "ychydig fisoedd" - ond dydyn nhw erioed wedi rhoi dyddiad pendant.

Wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu rhaglen lywodraethol ddydd Mawrth, fe wnaeth y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth awgrymu y bydden nhw'n cwblhau'r nod yma erbyn mis Medi 2027.

Mae'r Llywodraeth wedi addo gweithredu ar restrau aros, costau byw, tlodi plant a swyddi, yn ogystal ag ymrwymo i godi safonau mewn ysgolion.

'Lleihau'r cyfnodau aros hiraf i sero'

Mae ffigurau diweddar yn dangos bod 4,700 o bobl yn aros am ddwy flynedd neu fwy – cynnydd o 15% dros gyfnod o fis ac 82% yn uwch na'r sefyllfa ar ddiwedd mis Mawrth.

Yn siarad ar raglen BBC Politics Wales ddydd Sul, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor ei fod yn "hyderus" y byddai'r rhestrau dwy flynedd yn cael eu dileu "o fewn ychydig fisoedd".

Ond ar raglen Radio Wales Breakfast ddydd Mawrth, dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Ni 'di dweud y byddwn yn lleihau'r cyfnodau aros hiraf i sero o fewn misoedd – yn sicr mewn llai na blwyddyn – oherwydd dyw hynny ddim yn dderbyniol."

Yn y cyfweliad, dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai cyflawni ei raglen yn "heriol" o ystyried yr hinsawdd ariannol.

"Dydw i ddim yn bwriadu ceisio gwneud pethau hawdd er mwyn i ni allu eu ticio oddi ar y rhestr yn gyflym," meddai.

"Rydym yn bwriadu gwneud pethau uchelgeisiol. Rwy'n credu bod hynny'n hynod bwysig.

"Rydym yn credu fod gennym raglen yma sy'n seiliedig ar faniffesto [etholiadol Plaid], ac sy'n adeiladu ar sylfeini cadarn y can niwrnod cyntaf - y gallwn ei chyflawni.

"Ond bydd yn hynod heriol. Hynny yw, bydd gwariant cyfalaf yn gostwng rhwng nawr a diwedd y ddegawd."

Y dreth cyngor 'ddim yn dreth deg'

Addewid arall ym maniffesto etholiadol Plaid Cymru yw "archwilio ffyrdd o wneud y dreth cyngor yn decach".

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y Prif Weinidog "dwi ddim yn meddwl mai'r dreth cyngor ddyla' bod ganddo ni".

"Dwi'm yn meddwl ei fod yn dreth deg a mi fydda ni'n dymuno, fel mae gwleidyddion tebyg ar draws Prydain yn credu, bod angen rhywbeth gwahanol," meddai

"Be' 'da ni yn gallu gwneud yn y cyfamser ydi meddwl 'oes 'na ddifreinio?', 'oes 'na newid?', 'oes 'na ffordd o wneud o'n decach?'

"Mae nifer o opsiynau ar sut mae hynny'n gallu cael ei wneud."

Fe wnaeth Llafur Cymru feirniadu Plaid Cymru wythnos diwethaf ar ôl i weinidog wrthod dweud a fyddai'r rhaglen i blant ifanc Dechrau'n Deg yn parhau yn ei ffurf bresennol.

Dywedodd Mr ap Iorwerth mai Dechrau'n Deg yw'r "sail rydym yn adeiladu arni" ar gyfer cynnig gofal plant y llywodraeth.

Ychwanegodd fod rhaglen y Llywodraeth yn "uchelgeisiol" ac yn un sydd "ar gyfer y tymor Seneddol llawn".

"'Da ni wedi rhyddhau'r £50miliwn ar gyfer y cymal cyntaf sydd yn mynd i sicrhau'r 12 awr a hanner [o ofal] i blant dwy oed - 'da ni'n adeiladu ar wneud hyn rŵan," meddai.

Sarah Cooper-LesaddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sarah Cooper-Lesadd ei hethol i'r Senedd fis Mai i gynrychioli Pen-y-bont Bro Morgannwg

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth yr AS Reform Sarah Cooper-Lesadd adael y blaid i ymuno â Phlaid Cymru.

Cyfaddefodd Mr ap Iorwerth fod ei phenderfyniad yn un "anarferol".

"Mae'n lwybr na fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddisgwyl," meddai.

"Dwi'n hollol hyderus bod Sarah Cooper-Lesadd wedi ymgymryd â thaith wleidyddol ddilys."

Ychwanegodd: "Boed yn Sarah Cooper-Lessad neu'n etholwyr ehangach Cymru, dwi bob amser yn annog pobl i edrych ar Blaid Cymru, ar yr hyn rydym yn sefyll drosto, ac ar ein gweledigaeth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.