Arweinydd Plaid Werdd Cymru wedi cael llawdriniaeth am ganser

Cafodd Anthony Slaughter ei ethol yn arweinydd Plaid Werdd Cymru yn 2018
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Werdd Cymru wedi cael diagnosis o ganser, yn ôl y blaid.
Cafodd Anthony Slaughter lawdriniaeth yn ystod yr haf.
Dywedodd mewn dadl yn y Senedd ei fod wedi cael "llawdriniaeth ddifrifol a oedd wedi'i threfnu ymlaen llaw" – a dywedodd ei blaid ei fod yn gwella'n dda.
Mae'r Aelod o'r Senedd dros Gaerdydd Penarth yn un o ddau aelod o'r Blaid Werdd yn y Senedd a etholwyd ym mis Mai – y rhai cyntaf i gael eu hethol i Senedd Cymru.
Datgelodd Slaughter ei fod wedi cael llawdriniaeth yn ystod dadl a gyflwynodd ar atal llawdriniaethau gan Wasanaeth Rhywedd Cymru nos Fercher.
"Efallai bod llawer ohonoch wedi sylwi fy mod yn absennol am gyfnodau dros yr haf, a'r rheswm am hynny oedd fy mod i'n paratoi ar gyfer llawdriniaeth, yn yr ysbyty ac yna'n gwella," meddai.
Ganwyd Slaughter yn Sir Dwyrain Efrog ym 1962, ac mae wedi bod yn byw ym Mhenarth ers mwy na 15 mlynedd.
Cafodd ei ethol yn arweinydd Plaid Werdd Cymru yn 2018, ar ôl gwasanaethu'n flaenorol fel dirprwy yn 2014 a 2015.
Dywedodd ei blaid ei fod yn "gofyn am breifatrwydd ynghylch y mater personol iawn hwn, ac wedi mynegi ei ddymuniad na ddylai'r newyddion hwn gysgodi ei waith yn y Senedd".
Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn 'rhyddhad' - arweinydd Gwyrddion
- Cyhoeddwyd28 Ebrill
Y Blaid Werdd yn targedu ei sedd gyntaf yn Senedd Cymru ym mis Mai
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.