Gŵyl 'lawn hwyl ac asbri' yn croesawu Eisteddfod yr Urdd i Gasnewydd

Bydd Eisteddfod yr Urdd Bro'r Wenynen yn cael ei chynnal o 29 Mai hyd at 4 Mehefin, 2027
- Cyhoeddwyd
Bydd cannoedd o bobl yn rhan o ŵyl arbennig yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn a hynny er mwyn croesawu Eisteddfod yr Urdd i ardal Gwent yn 2027.
Dyma fydd y tro cyntaf erioed i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Chasnewydd ac mi fydd yn cael ei chynnal yn Nhŷ Tredegar.
Yn ystod yr Ŵyl Groeso ddydd Sadwrn, bydd gorymdaith yn dechrau o Sgwâr John Frost ac yna'n gorffen ger Theatr Glanyrafon.
Yn hwyrach bydd adloniant a gweithgareddau, gan gynnwys perfformiadau gan yr artistiaid Mei Gwynedd a Martyn Geraint.
Dywedodd Elin Maher, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, wrth Cymru Fyw bod y trefnwyr yn gobeithio cael gŵyl sy'n "llawn hwyl, asbri a mwynhad".

"Mae'r ymateb wedi bod yn arbennig," medd Elin Maher ac mae disgwyl i ganol Casnewydd fod yn "llawn dop" ar gyfer yr Ŵyl Groesawu
"Ry'n ni'n gobeithio dangos i bawb yn y ddinas, i Went ac i weddill Cymru ein bod yn barod i groesawu pawb flwyddyn nesa," esboniodd Elin.
"Dyma'r tro cynta' iddi ddod i ganol Casnewydd ar ei newydd wedd.
"Ry'n ni'n cerdded ar hyd ffordd hanesyddol - cerdded a phasio canol y ddinas lle o'dd y siartwyr yn cerdded yn mynnu hawliau i'r bobl gyffredin."
Dywedodd fod yr orymdaith yn gwneud yr ŵyl yn unigryw oherwydd yr hanes sy'n perthyn i'r lleoliadau ar y ffordd.
'Pob math o gerfluniau'
"Mi fydden ni'n pasio pob math o gerfluniau a'r mosaig!"
Cafodd mosaig ei greu yng Nghasnewydd yn 1978 gan yr artist Kenneth Budd mewn twnnel cerdded er mwyn nodi gwrthryfel y Siartwyr yn 1839.
Cafodd y murlun gwreiddiol hwnnw ei ddymchwel yn 2013.
Yn 2019 cafodd copi o'r gwreiddiol ei godi gan ei fab, Oliver, union 180 mlynedd ers y gwrthryfel.
"Ma' nhw ar hyd a lled Casnewydd nawr," meddai Elin.

Dyma fydd y tro cyntaf erioed i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Chasnewydd ac mi fydd yn cael ei chynnal ar dir Tŷ Tredegar
"Yna mi fydden ni'n pasio o dan ffordd y castell ac wrth yr afon a gorffen wrth y don.
"Mae'r ymateb wedi bod yn arbennig, ma' dros 40 o ysgolion yn dod - bydd canol Casnewydd yn llawn dop a byddwn ni'n chwifio ein baneri!"
Ychwanegodd Elin fod Mistar Urdd am ddechrau 'Park Run' yr ardal fore Sadwrn hefyd.
"Ma'r ymateb wirioneddol wedi bod yn arbennig - partneriaid cymunedol, cylchoedd meithrin, jambori Martyn Geraint a Mei Gwynedd hefyd, stondinau, mentrau iaith...
"Ma' codi arian yn mynd yn dda ac mae yno griwiau arbennig yn y pum sir yn codi ymwybyddiaeth ac arian.
"Ry'n ni'n falch o bob ceiniog sy'n cael ei roi i hyrwyddo'r ŵyl," ychwanegodd Elin.
Mae rhanbarth Gwent yn cynnwys Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy ac mae'r ardaloedd oll yn cydweithio.
Bydd Prifwyl yr Urdd yn cael ei chynnal o 29 Mai hyd at 4 Mehefin, 2027.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2025

- Cyhoeddwyd25 Mai

- Cyhoeddwyd12 Medi 2024
