Caernarfon fydd cartref Eisteddfod yr Urdd Eryri 2028

Croeso
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eisteddfod yr Urdd 2026 ei chynnal ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Urdd a Chyngor Gwynedd wedi cyhoeddi mai Caernarfon fydd cartref Eisteddfod yr Urdd Eryri 2028 a hynny am y tro cyntaf ers 1956.

Mae prifwyl yr Urdd wedi cael ei chynnal yn y sir o'r blaen - gan ddilyn ymweliadau â Llŷn yn 1998, Glynllifon yn 2012, a'r Bala yn 2014.

Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl deithiol, sy'n ymweld â rhanbarth gwahanol bob blwyddyn, gyda'r Eisteddfod eleni ar Ynys Môn, ac Eisteddfod 2027 yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd, Gwent am y tro cyntaf erioed.

Dywedodd cyfarwyddwr y celfyddydau Urdd Gobaith Cymru, Llio Maddocks eu bod "mor gyffrous" fod yr Eisteddfod yn dychwelyd i Gaernarfon "ble mae'r Gymraeg i'w chlywed yn naturiol, ac yn fwrlwm o weithgareddau cymunedol a chelfyddydol".

Llio MaddocksFfynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn y gynhadledd i'r wasg ar faes yr Eisteddfod fore Llun

Mewn cynhadledd i'r wasg ar faes Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn dywedodd Llio Maddocks fod "safle yn cael ei ystyried ar ffordd Bethel yng Nghaernarfon" ond eu bod yn edrych ymlaen at "gyhoeddi'r union leoliad wedi trafodaethau pellach rhwng yr Urdd, Cyngor Gwynedd a pherchnogion tir lleol".

Ychwanegodd ei bod yn awyddus i gydweithio "dros y ddwy flynedd nesaf i sicrhau gŵyl gofiadwy a phrofiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc yr ardal".

Mae'r Cynghorydd Menna Trenholme, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd "yn hynod falch o allu croesawu Eisteddfod yr Urdd i Wynedd yn 2028 - dyma'r tro cyntaf i'r wŷl ddod i ardal Arfon ers 2012 ac rwy'n gwybod bydd y gymuned leol yn sicrhau y bydd yn Eisteddfod i'w chofio."

Ychwanegodd y bydd llawer o waith i'w wneud nawr ond mae'n "edrych ymlaen at fwrlwm y paratoadau".

"Mae'r cynnwrf sydd i'w deimlo yma ym Môn yr wythnos hon yn ysbrydoliaeth i ni gyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.