Anthony Joshua a Tyson Fury i wynebu ei gilydd yng Nghaerdydd

- Cyhoeddwyd
Bydd yr ornest hirddisgwyliedig rhwng Anthony Joshua a Tyson Fury yn digwydd yn Stadiwm Principality, Caerdydd, ar 11 Rhagfyr.
Bydd yr ornest rhwng y ddau gyn-bencampwr pwysau trwm yn cael ei darlledu ar Netflix yn oriau mân y bore, er mwyn denu cynulleidfa yn yr Unol Daleithiau.
Mae disgwyl i filoedd heidio i'r brifddinas ar gyfer y digwyddiad, sydd wedi cael ei disgrifio fel un o'r rhai mwyaf yn hanes bocsio Prydain.
Bydd Joshua a Fury yn wynebu ei gilydd mewn cynhadledd i'r wasg yn Llundain ddydd Mercher, 30 Medi, cyn yr ornest ym mis Rhagfyr.
Ateb y Galw: Gwion Ellis
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf
Efeilliaid o Grymych yn targedu teitlau wrth ddychwelyd i'r sgwâr focsio
- Cyhoeddwyd15 Mehefin
Jade Jones: O goncro'r byd taekwondo i wynebu ei gornest focsio gyntaf
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
"Rwy'n ysbrydoli cenhedlaeth," meddai Joshua, sy'n 36 oed, mewn neges ar Instagram, tra nad yw Fury, 38 oed, wedi ymateb yn gyhoeddus eto.
Roedd Stadiwm Wembley yn Llundain a Madison Square Garden yn Efrog Newydd ymhlith y lleoliadau oedd yn cael eu hystyried i gynnal y frwydr, ond cododd anawsterau gyda'r ddau leoliad.
Mae Stadiwm Principality eisoes wedi cynnal nosweithiau bocsio hwyr, gan gynnwys buddugoliaeth Joe Calzaghe dros Mikkel Kessler ym mis Tachwedd 2007, pan ddechreuodd y brif ornest am 01:00.
Mae'r ornest yn nodi'r tro cyntaf i Joshua a Fury wynebu ei gilydd, er bod y ddau wedi bod yn trafod y posibilrwydd o ymladd ers blynyddoedd.
Croesawodd Undeb Rygbi Cymru a Chyngor Caerdydd y newyddion, gan ddweud y bydd y digwyddiad yn atgyfnerthu enw da'r ddinas fel lleoliad digwyddiadau mawr ac yn hwb i'r economi.
Mae angen addasu trwydded y stadiwm er mwyn cynnal digwyddiad yn oriau mân y bore, ond mae'r trefniadau eisoes ar droed ynglŷn â thrafnidiaeth a phlismona'r digwyddiad ar 11 Rhagfyr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.