Elfyn Evans un rali i ffwrdd o fod yn bencampwr ar ôl canslo ras Saudi

Mae Evans wedi gorffen yn ail yn y bencampwriaeth ar bum achlysur
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyrrwr rali o Gymru, Elfyn Evans, bellach un rali i ffwrdd o ennill y bencampwriaeth ar ôl i rali olaf y tymor gael ei ganslo.
Roedd disgwyl i'r rali olaf ddigwydd yn Saudi Arabia ym mis Tachwedd, ond ni fydd yn digwydd bellach yn sgil gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Y rali nesaf yn Sardinia, Yr Eidal ddechrau Hydref fydd rali olaf y bencampwriaeth eleni felly.
Dywedodd y corff sy'n rheoli ralïo, yr FIA, bod y penderfyniad oherwydd "ansicrwydd parhaus yn yr ardal a'r effaith ar drefniadau".
Mae Evans, sydd o Ddinas Mawddwy, ar frig tabl y WRC cyn y rali olaf, 17 o bwyntiau o flaen Sami Pajari.
Mae uchafswm o 35 o bwyntiau ar gael yn y rownd olaf yn Sardinia.
Mae'r Cymro wedi gorffen yn ail ar bum achlysur, gan gynnwys llynedd pan oedd ar y brig cyn y rali olaf yn Saudi Arabia.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin

