Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2026

Mae cyfanswm o 12 awdur (uchod) yn cystadlu mewn pedwar categori gwahanol
- Cyhoeddwyd
Mae enwau'r cyfrolau sydd ar Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2026 yn Gymraeg a Saesneg, wedi cael eu cyhoeddi gan Lenyddiaeth Cymru.
Gyda phedwar categori i gyd, mae cyfanswm o 12 llyfr yn cystadlu am y Wobr Ffuglen, Gwobr Farddoniaeth, Gwobr Ffeithiol Greadigol a Gwobr Plant a Phobl Ifanc yn y ddwy iaith.
Cafodd y rhestr Gymraeg ei chyhoeddi gan y beirniaid ar raglen arbennig Llyfr y Flwyddyn 2026 ar BBC Radio Cymru brynhawn Sul, gyda Nest Jenkins yn cyflwyno. A chafodd y rRhestr Saesneg ei chyhoeddi gan y beirniad, Shirish Kulkarni ar raglen Lynn Bowles ar BBC Radio Wales.
Bydd seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Galeri Caernarfon ar nos Iau, 9 Gorffennaf, gyda gwobr o £1,000 yr un i bob enillydd categori a £3,000 ychwanegol am y brif wobr.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi ei chynnal gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004
Beirniaid y cystadlaethau Cymraeg eleni ydy'r Prifardd a'r awdur Ifor ap Glyn, Yr Athro Gwenno Ffrancon, yr awdur a'r golygydd Dr Sioned Puw Rowlands, a'r cyflwynydd Dafydd Lennon.
Dywedodd Gwenno Ffrancon ar ran y panel Cymraeg y bu'n "fwynhad pur darllen y gweithiau ffuglen Cymraeg a gyhoeddwyd eleni a phwyso a mesur yr amrywiaeth eang o gyfrolau a ddaeth i law".
"Gyda'r byd yn gwallgofi bron yn ddyddiol, roedd hi'n hyfryd cael dianc i fydoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd a mwynhau doniau a ffrwyth dychymyg yr awduron."

Bydd yr awduron llwyddiannus yn derbyn tlysau Llyfr y Flwyddyn hefyd, wedi'u dylunio gan yr artist Angharad Pearce Jones.
Mae cyfle i ddarllenwyr fynegi barn, gan fod Golwg360 a Nation Cymru yn cynnal pleidleisiau Barn y Bobl a People's Choice ar eu gwefannau.
Bydd enillwyr y gwobrau hynny'n cael eu henwi yn y seremoni wobrwyo yn ogystal.

Rhestr Fer Gymraeg 2026
Gwobr Ffuglen - Noddir gan Cyfrifyddion HSJ
Dau, Bethan Nantcyll (Gwasg y Bwthyn)
Hiraeth Neifion, Simon Chandler (Gwasg Carreg Gwalch)
Tri, Sonia Edwards (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Farddoniaeth - Cefnogir gan Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd
Trochi, Carwyn Eckley (Gwasg Carreg Gwalch)
Mae, Mererid Hopwood (Barddas)
Chwarter Eiliad, Jo Heyde (Barddas)
Gwobr Ffeithiol Greadigol - Noddir gan Stori Cymru
Lobsgows – Cariad y Cymry at Fwyd, Ruth Richards (Gwasg Carreg Gwalch)
Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni – Ar Lwybrau 'Atgof' Prosser Rhys , Iestyn Tyne (Gwasg y Bwthyn)
Ynysoedd Gobaith – Mentrau a Syniadau Iwtopaidd yng Nghymru'r Ugeinfed Ganrif, Llion Wigley (Gwasg Prifysgol Cymru)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc - Cefnogir gan Gronfa Elw Park-Jones
Anfarwol, Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)
Gerwyn Gwrthod a'r Llyfr Does Neb yn Cael Ei Ddarllen, Sion Tomos Owen (Atebol)
Y Cae Ras, Manon Steffan Ross (Y Lolfa)

Dywedodd Claire Furlong, cyfarwyddwr gweithredol Llenyddiaeth Cymru: "Llongyfarchiadau mawr i'r awduron ar y rhestr fer eleni.
"Bu'n flwyddyn ragorol arall i lenyddiaeth Gymraeg a Chymreig, sy'n cael ei adlewyrchu nid yn unig yn y rhestr anhygoel hon, ond hefyd o edrych ar yr holl lyfrau gwych a gyhoeddwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae'n rhaid fod y beirniaid wedi cael cyfnodau dwys iawn o grafu pen!
"Rydym bob amser yn edrych ymlaen at ddarganfod eu dewisiadau ac yn cael mwynhad mawr o'r cyfnod rhwng cyhoeddi'r rhestr fer a'r seremoni wobrwyo - amser i ddarllen, trafod a dathlu.
"Ewch draw i'ch siop lyfrau neu lyfrgell leol, darganfyddwch y llyfrau rhyfeddol hyn, ac ymunwch â'r sgwrs: beth yw eich Llyfr y Flwyddyn chi yn 2026?"
Rhestr Fer Saesneg 2026
Gwobr Ffuglen - Cefnogir gan The Rhys Davies Trust
Pulse, Cynan Jones (Granta Publications)
Cold Grace, Meredith Miller (Honno Press)
A Room Above A Shop, Anthony Shapland (Granta Publications)
Gwobr Farddoniaeth - Cefnogir gan Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd
Hôtel Amour, Deryn Rees-Jones (Seren Books)
The Storm's Flora, Laura Wainwright (Seren Books)
Fourth & Walnut, Jeremy Over (Carcanet Press)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
One Woman Walks Europe, Ursula Martin (Honno Press)
Children of Radium: A Buried Inheritance, Joe Dunthorne (Hamish Hamilton)
There She Goes, My Beautiful World, Gosia Buzzanca (Calon)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc - Noddir gan Gronfa Elw Park-Jones
Vanishing Edge, Zillah Bethell (Firefly Press)
My Dog, Olivia Wakeford (Harper Collins Children's Books/ Harper Fire)
The Wicked Lies of Habren Faire, Anna Fiteni (Electric Monkey, HarperCollins)
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth

- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2025
