Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Wrecsam

- Cyhoeddwyd
Mae dyn 40 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth mewn cysylltiad â marwolaeth dyn yn Wrecsam.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod ymchwiliad wedi ei lansio ar ôl i Linas Buta, 49 oed, farw o ganlyniad i anaf pen mewn eiddo ym Mryn Glas, Rhosllannerchrugog, ar 27 Mawrth.
Cafodd y dyn o ardal Essex ei arestio ddydd Iau ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae bellach wedi ei ryddau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.