Hen gapel ar werth am £7,000 wrth i arolwg edrych ar adeiladau capeli

Mae Capel Bethel ar gael mewn ocsiwn am ddim ond £7,000
- Cyhoeddwyd
Mae hen gapel sydd â photensial i'w droi yn gartref ar gael i'w brynu am £7,000, wrth i arolwg gael ei gynnal ar adeiladau capeli.
Mae Capel Bethel yn Nhredegar Newydd, Caerffili ar werth am bris sydd 43 gwaith yn rhatach na chyfartaledd pris tŷ ym Mhrydain sef £300,000.
Cafodd y capel ei adeiladu yn 1860 ac mae'r pulpud, y galeri a'r seddau pren gwreiddiol yn parhau yn yr addoldy.
Mae'r capel wedi'i ddisgrifio ar y rhestr ocsiwn fel un "hyfryd" ac yn "gyfle gwych i'w addasu yn gartref preswyl neu i'w ddefnyddio ar gyfer dibenion cymunedol, unwaith y bydd caniatâd cynllunio perthnasol yn cael ei roi".
Mae dros 6,500 o gapeli wedi'i cofrestru yng Nghymru, ond ar hyn o bryd does dim cofnod manwl yn nodi faint sy'n cael eu defnyddio fel addoldai, yn ôl Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Mae'r Comisiwn wedi derbyn arian grant gan y loteri i gynnal 'Cyfrifiad Capeli Cymru.'

Mae'r deunyddiau gwreiddiol i'w gweld o hyd y tu mewn i'r capel
Mae gwefan y comisiwn yn datgan y bydd yr arolwg yn "datblygu strategaethau arloesol ac ymarferol i ddiogelu treftadaeth capeli ledled y wlad".
"Cam sylweddol a fydd yn dylanwadu ar y gwaith hwn fydd cynnal arolwg cenedlaethol o gapeli, a fydd yn mapio capeli sydd ar agor, sydd wedi cau ac sydd wedi'u haddasu ledled Cymru, gan gofnodi data am gynaliadwyedd, gwerth pensaernïol, a statws asedau treftadaeth a warchodir yn genedlaethol."
Y bwriad yw darganfod beth yw'r problemau sy'n wynebu capeli heddiw a chynnal arolwg cenedlaethol er mwyn gallu cofnodi data o'r sefyllfa bresennol.
Bydd y data'n cyfrannu at arolwg cenedlaethol Cadw o asedau hanesyddol.
Bydd y sensws hefyd yn casglu manylion o ran defnydd presennol rhai o'r capeli a'r potensial i'w defnyddio nhw at ddibenion eraill.
Fe wnaeth adroddiad gan Sefydliad Bevan yn ddiweddar amcangyfrif bod 25% o addoldai wedi cau yn y degawd diwethaf.
"Mae'n bwysig peidio anghofio'r manteision ehangach o ddod o hyd i ddefnydd newydd i'r llefydd yma.
"Unwaith y bydden nhw'n colli eu pwrpas, dyna pryd maen nhw'n mynd yn adfeilion," meddai.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod ailddatblygu'r adeiladau yma sydd o bwysigrwydd hanesyddol yn gallu bod yn heriol ond bod modd goresgyn hynny.
"Does dim ffyrdd hawdd, ond mae digon o gyfleoedd," meddai'r adroddiad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
