Pobl ifanc Cymru i gael cynnig brechiad Men B cyn tymor yr hydref

Dyn ifanc yn cael brechiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Men B yw'r achos mwyaf cyffredin o glefyd meningococol ymledol yn y DU, a gall achosi llid yr ymennydd a sepsis, gan beryglu bywyd

  • Cyhoeddwyd

Bydd pobl ifanc yng Nghymru'n cael cynnig brechiad Meningococol B (Men B) "am y tro cyntaf" yn y misoedd nesaf, medd Llywodraeth Cymru.

Mae'n rhan o raglen "sydd ar gael am gyfnod cyfyngedig o amser" yn sgil "achosion digynsail o Men B, yn bennaf ymhlith myfyrwyr Prifysgol Caint, ym mis Mawrth 2026 a chlystyrau eraill mwy diweddar mewn rhannau eraill o'r DU".

Dywed y llywodraeth bod "tystiolaeth yn dangos bod pobl ifanc yn wynebu risg uwch o ddal Men B, a bod risgiau penodol yn gysylltiedig â lleoliadau addysg uwch oherwydd lefelau uchel o gymysgu cymdeithasol agos".

Bydd y brechiadau yn cael eu cynnig i bobl ifanc 17 a 18 oed - a gafodd eu geni rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008 - ac unigolion rhwng 18 a 25 oed sy'n cael addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf ym mis Hydref 2026, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol.

Fe fydd y brechlyn dau ddos yn cael ei roi rhwng Gorffennaf a Rhagfyr.

Bydd myfyrwyr 17 a 18 oed yn cael llythyr gwahoddiad gan fyrddau iechyd o 6 Gorffennaf ymlaen.

Ond bydd angen i fyfyrwyr 18-25 oed sy'n mynd i brifysgol neu goleg addysg bellach am y tro cyntaf yr hydref yma gysylltu â'r bwrdd iechyd perthnasol ar ôl 20 Gorffennaf i gael rhagor o wybodaeth.

Dywedodd y dirprwy weinidog dros iechyd cyhoeddus ac ataliol, Nerys Evans: "Mae Meningococol B yn glefyd prin ond hynod ddifrifol sy'n gallu datblygu'n gyflym a dinistrio bywydau ifanc.

"Yn dilyn achosion diweddar ar draws y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n bendant i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael cynnig yr amddiffyniad ychwanegol hwn ac rwy'n annog pawb sy'n gymwys i fanteisio ar y cynnig o frechlyn."

Yn ôl prif swyddog meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver, mae'n "hanfodol" bod pobl ifanc cymwys yn manteisio ar y cynnig "cyn gynted ag y bydd y rhaglen yn agor".

"Mae hwn yn frechlyn diogel ac effeithiol a fydd yn cynnig amddiffyniad pwysig i'r rhai sy'n ei gael," meddai.

Beth yw llid yr ymennydd?

Mae llid yr ymennydd yn haint o'r pilenni amddiffynnol (protective membranes) sy'n amgylchynu'r ymennydd a llinyn y cefn.

Mae'n cael ei achosi gan wahanol fathau o facteria, feirysau, ffyngau a phathogenau eraill, ac mae'r prif fathau o facteria yn cynnwys mathau meningococcal A, B, C, W, X ac Y.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, Men B oedd 82.6% (313 o 378) o'r holl achosion, yn ôl ffigyrau Llywodraeth y DU.

Graffeg rhai o symptomau llid yr ymennydd

Mae babanod mewn perygl uchel o gael Men B oherwydd nad oes ganddyn nhw amddiffyniad imiwnedd rhag gwrthgyrff (antibodies), gyda'r clefyd yn brin mewn rhai dros bedair oed.

O ganlyniad, mae'r GIG yn cynnig y brechlyn Men B i fabanod mewn tri dos - yn wyth wythnos, 12 wythnos, a blwydd oed.

Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o gario'r bacteria yn eu gwddf na grwpiau oedran eraill, a dyna pam fod rhai achosion o'r clefyd yn y grŵp oedran hwnnw.

Y llynedd bu farw myfyriwr o Gymru ar ôl dal llid yr ymennydd ym Mhrifysgol Bournemouth, tra bu farw dau berson yn dilyn achos yng Nghaint yn gynharach eleni.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.