'Tydi fy nghorff i ar ôl cael babi ddim yn destun sgwrs'

Cat yn gafael ei merch a'i mab, yn gwisgo dillad ymarfer corff mewn campfa. Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cat Jane yn fam i ddau ac wedi derbyn sylwadau cas ar-lein fel dylanwadydd ffitrwydd

GanBeth Alaw Williams
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dylanwadwr ffitrwydd o sir Conwy yn dweud bod cyfryngau cymdeithasol yn gosod pwysau annheg ar famau wedi iddi hi dderbyn sylwadau sarhaus am ei chorff.

Mae Cat Jane yn ymarfer corff yn rheolaidd a dywed bod cael ei beirniadu ar-lein yn gyfystyr â bwlio.

Mae BBC Cymru wedi bod yn siarad â mamau newydd am yr effaith mae cyfryngau cymdeithasol yn cael ar eu delwedd corff.

Mae Alex Bull, sy'n sylfaenydd stiwdio ffitrwydd yng Nghaerdydd, yn pwysleisio ei bod hi'n bwysig i fenywod wneud "beth bynnag chi eisiau ei wneud" ar ôl rhoi genedigaeth.

Cat JaneFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cat Jane yn dweud ei bod hi'n deffro "bob dydd" i sylwadau newydd

Mae Cat Jane o Ddolgarrog yn rhannu cynnwys am ffitrwydd i dros 130,000 o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae hi'n dweud bod hynny wedi denu sylwadau sarhaus am ei chorff wedi iddi roi genedigaeth.

"Dim otsh be' ti'n bostio, mae 'na rywun o hyd am ddeud rhywbeth negatif neu rywbeth sydd ddim yn neis," meddai.

Mae'r negeseuon ar-lein yn golygu bod Cat yn deffro "bob bore" i sylwadau beirniadol.

Dywedodd: "Dwi ddim yn deall pam mae pobl yn meddwl eu bod nhw'n gallu rhoi eu barn.

"Bysan nhw byth yn dweud hynny i dy wyneb.

"Mae o fel byd gwahanol ar-lein ac mae o'n ypsetio fi weithiau."

Cat Jane yn feichiogFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cat yn credu ei bod yn bwysig bod yn onest ar-lein am ei chorff

Mae Cat yn dweud bod cyfryngau cymdeithasol yn "rili drwg" am osod disgwyliadau afrealistig wrth i'r defnydd o filters a golygu lluniau barhau.

"Mae 'na lot o bwysau ar genod a mamau i edrych yn berffaith," meddai.

"Byswn i byth eisiau gwneud i rywun arall deimlo fel bod nhw ddim yn gwneud digon.

"Dwi wedi cychwyn rhannu lot mwy o imperfections fi fy hun jyst i ddangos bod gen i cellulite a bol wrinkly.

"Mae hynna'n rhywbeth mae mamau eraill yn gallu uniaethu efo."

Stroll Patrol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mamau newydd yma yn rhan o glwb cerdded y Stroll Patrol ym Mhwllheli

Draw ym Mhwllheli, mae grŵp o famau newydd yn cwrdd yn wythnosol fel rhan o glwb cerdded y Stroll Patrol.

Fe wnaeth Vicky Edmunds roi genedigaeth i Naya bron i dri mis yn ôl, ac ar hyn o bryd mae'n paratoi ar gyfer ei phriodas mewn ychydig wythnosau.

"Rhaid i ti drio peidio rhoi gormod o bwysau ar dy hun, ond ti yn," meddai.

"Yn fy mhen, dwi'n meddwl, 'mae rhaid i fi ffitio i'r ffrog 'ma.

"Mae'r pwysau yna achos ti'n gweld yr holl bobl 'ma ar-lein ac os maen nhw'n gallu gwneud o, pam dwi ddim?

"Ti'n gorfod meddwl pa mor amazing mae dy gorff di wedi bod i allu creu y bywyd bach newydd 'ma."

Alex a BrookeFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alex Bull - yma gyda'i merch Brooke - yn cyfaddef ei bod wedi teimlo'n euog am ddychwelyd i weithio yn ei stiwdio ffitrwydd ar ôl rhoi genedigaeth

Mae Alex Bull yn fam i ddau, ac fel sylfaenydd stiwdio ffitrwydd yng Nghaerdydd mae hi'n gweld effaith cyfryngau cymdeithasol ar famau.

Dywedodd perchennog stiwdio Tarw: "Mae'r algorithm yn greulon.

"Mae'r algorithm yn gwybod ti newydd gael babi achos ti wedi bod yn sbïo ar trends, ac felly yn meddwl 'dwi am ddangos y llun o fam sy'n gwneud popeth'."

Mae Alex hefyd yn dweud bod effaith pigiad colli pwysau Ozempic yn rhywbeth mae hyfforddwyr ffitrwydd "yn brwydro yn ei erbyn bob dydd" gan fod y cyffur yn normaleiddio colli pwysau yn gyflym.

Babi tarwFfynhonnell y llun, Tyler Lloyd Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alex wedi bod yn arwain dosbarthiadau ffitrwydd i famau newydd gyda'u plant

Mae'r hyfforddwr ffitrwydd yn cyfaddef iddi deimlo "cywilydd" am gychwyn ymarfer corff bum wythnos ar ôl iddi groesawu ei hail blentyn Jesse, ond yn teimlo ei bod hi'n bwysig bod mamau newydd yn gwneud "beth bynnag chi eisiau ei wneud".

Yn ei dosbarthiadau i famau mae Alex yn dweud nad colli pwysau yw'r prif nod.

"Mae beichiogrwydd fel rhedeg marathon - mae eich corff wedi mynd trwy gymaint a ti'n gallu gwneud mwy na ti'n meddwl," meddai.

"I fi oedd o'n bwysig i gael rhywle ble oedd [mamau'n] gallu gwthio eu hunain yn ddiogel, neu jyst troi lan ac mae hynny'n ddigon."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.