Cyhuddo dau o lofruddiaeth ar ôl gwrthdrawiad Casnewydd

Cerbydau a swyddogion heddlu ar safle'r gwrthdrawiad yng Nghasnewydd ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i adroddiad o wrthdrawiad ffordd yn cynnwys BMW a beic modur ar Heol Aberddawan, Alway, Casnewydd, wedi cyhuddo dau ddyn o lofruddiaeth.
Mae disgwyl i'r dynion, sy'n 18 a 34 oed, ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.
Cafodd dau berson ifanc o Gasnewydd eu datgan yn farw yn y fan a'r lle yn oriau mân bore dydd Iau.
Mae Heddlu Gwent wedi dweud mai enwau'r ddau fu farw oedd Jaydon Bowyer, 19 oed, a Tashay Canoville, 16 oed, sef gyrrwr a theithiwr cefn y beic modur.
Cafodd y dyn 18 oed o Gasnewydd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ddydd Iau cyn cael ei gyhuddo o'r drosedd.
Mae'r dyn 34 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth hefyd wedi ei gyhuddo.
Mae'r ddau ddyn wedi eu cadw yn nalfa'r heddlu cyn eu hymddangosiadau yn y llys.
Dywedodd uwch-swyddog yr ymchwiliad, y Ditectif Uwch-arolygydd Steven Maloney: "Mae teuluoedd Jaydon a Tashay yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ac mae ein meddyliau'n parhau gyda nhw ar yr adeg anodd hon."
Ychwanegodd: "Hoffem ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth wrth i ni barhau i ymchwilio'n llawn i amgylchiadau'r marwolaethau trasig hyn.
"Rydyn ni'n deall y gall adroddiadau o'r fath beri pryder i'n cymunedau.
"Rydyn ni wedi bod yn gweithio drwy'r dydd a'r nos i gasglu ac asesu tystiolaeth ac rydym wedi bod mewn cysylltiad agos â'n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron i gyrraedd y ddau benderfyniad cyhuddo hyn.
"Tra bod ein hymholiadau yn parhau dros y dyddiau nesaf, mae'n debygol y bydd mwy o swyddogion yr heddlu i'w gweld yn yr ardal."
Cadarnhaodd yr heddlu fod dwy fenyw o Gasnewydd, sy'n 24 a 40 oed, wedi cael eu rhyddhau ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.