Dyn yn y llys wedi marwolaeth gwirfoddolwr Beiciau Gwaed Cymru

A478 ym Mhentregalar
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A478 ym Mhentregalar fis Gorffennaf y llynedd

GanElen Davies
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 57 oed wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yng ngogledd Sir Benfro y llynedd.

Roedd Timothy Minett, 78, yn gwirfoddoli i elusen Beiciau Gwaed Cymru pan fu ei feic modur mewn gwrthdrawiad â fan wen Volkswagen Crafter ar yr A478 ym Mhentregalar ar 2 Gorffennaf 2025.

Bu farw Mr Minett yn y fan a'r lle

Cafodd Roger King o Hermon ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae bellach wedi ei gyhuddo.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 29 Mai.

Wrth ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Mawrth, cadarnhaodd Mr King ei enw, ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad, ac ni ofynnwyd iddo gyflwyno ple.

Roedd aelodau o deulu Mr Minett yn bresennol yn y llys.

Yn dilyn y gwrthdrawiad, cafodd Mr Minett ei ddisgrifio mewn teyrnged gan ei deulu fel "gŵr, llystad, taid, brawd, ewythr a ffrind ymroddedig".

Roedd Timothy Minett yn gwirfoddoli gydag elusen Beiciau Gwaed Cymru adeg y gwrthdrawiad.

Mae'r elusen yn darparu gwasanaeth cludo am ddim i'r gwasanaeth iechyd, gan gario eitemau fel gwaed a phlasma ar draws y wlad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.