Blog Huw Edwards yn 'amhriodol ac amharchus' - ymgyrchwyr

Huw EdwardsFfynhonnell y llun, Heddlu'r Met
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Huw Edwards ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei ohirio, a bydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am saith mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr camdrin rhyw yn erbyn plant wedi beirniadu cyn-gyflwynydd newyddion y BBC, Huw Edwards am ei benderfyniad "amhriodol ac amharchus" i ddechrau blog.

Yn 2024, fe gafodd Huw Edwards ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd am fod â delweddau anweddus yn ei feddiant, oedd yn cynnwys 41 o ddelweddau o blant - saith yn y categori mwyaf difrifol.

Ddydd Mercher fe lansiodd flog Substack, yn cynnig "sylwebaeth a dadansoddi" ar bethau fel materion cyfoes ac iechyd meddwl.

Ond mae Edwards wedi cael ei feirniadu gan rai am ddangos "diffyg edifeirwch".

Yn ymateb, dywedodd Edwards fod y bobl hynny "o bosib wedi methu amcan" y blog.

Dywedodd Edwards - a gafodd hefyd ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am saith mlynedd - wrth y BBC ei fod wedi mynegi "edifeirwch diffuant" yn y llys yn 2024, ac mewn datganiad cyhoeddus ym mis Mawrth.

'Dydyn ni ddim eisiau clywed gen ti, Huw'

Dywedodd Emma Jane Taylor, ymgyrchydd a sylfaenydd elusen Project 90-10: "I feddwl y gall e jest dychwelyd i blatfform cyhoeddus a chael ei dderbyn fel tasai dim wedi digwydd, mae'n dangos diffyg ymwybodolrwydd anhygoel".

Mae Ms Taylor, 53, yn ddioddefwr cam-drin rhyw fel plentyn, ac mae'n gweithio er mwyn ceisio sicrhau "mwy o ymwybyddiaeth, mwy o ddiogelu, a mwy o hyfforddiant".

Yn ymateb i benderfyniad Edwards i sefydlu blog, dywedodd ei bod yn "rhwystredig iawn".

"Mae ar y gofrestr troseddwyr rhyw - ddylai hynny ddim rhoi'r hawl iddo gael blog. Dydyn ni ddim eisiau clywed gen ti, Huw," meddai.

Emma Jane TaylorFfynhonnell y llun, Laurie Fletcher
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emma Jane Taylor fod blog Huw Edwards yn "afiach"

Fe ddechreuodd Edwards ei yrfa yng Nghymru cyn dod yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd y BBC, gan gyflwyno BBC News at Ten am ddegawdau.

Yn ei sylw cyntaf ar y blog, dywedodd Edwards ei fod yn "ceisio adeiladu rhyw fath o fywyd gwerth chweil".

Ond yn ôl Ms Taylor, dylai wneud hynny'n "breifat" a dechrau trwy "ddangos ychydig o edifeirwch".

"Mae wedi cael ei gyfle. Os wyt ti'n teimlo mor gryf am dy siwrne, buddsodda mewn gwneud rhywbeth i helpu troseddwyr rhyw rhag troseddu. Efallai dos i mewn i garchardai," meddai.

"Dyw rhoi dy hun ar bedestal ddim am helpu'r drafodaeth.

"Dyw ymddiriedaeth gyhoeddus ddim yn rhywbeth sy'n hawl - mae'n rhaid i chi ei haeddu. Mae gan weithredoedd ganlyniadau."

Huw Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw Edwards yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd y BBC

Pwysleisiodd Fflur Emlyn, dirprwy brif weithredwr canolfan RASASC Gogledd Cymru, sy'n cefnogi dioddefwyr trais a chamdrin, "nad yw troseddau'n ymwneud â lluniau anweddus o blant yn victimless".

"Mae'r delweddau yma'n dangos camdriniaeth o blant go iawn, ac mae nifer o ddioddefwyr yn byw gydag effeithiau hirdymor hynny," meddai.

"Rydyn ni'n cydnabod y gallai datblygiadau diweddar yn yr achos yma, gan gynnwys dychwelyd i blatfformau cyhoeddus, gael effaith ar ddioddefwyr.

"Os oes unrhyw un wedi cael ei effeithio, mae cefnogaeth ar gael."

Mewn ymateb i'r feirniadaeth, fe wnaeth Edwards grybwyll datganiad ganddo ym mis Mawrth sy'n datgan "edifeirwch ac ymddiheuriadau diffuant".

Dywedodd y datganiad - oedd mewn ymateb i ddrama Channel 5 amdano - ei fod yn cymryd "cyfrifoldeb llwyr am fy ngweithredoedd annerbyniol".

Os yw'r stori yma wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.