Glyn Wise: 'Angen defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i ledaenu'r efengyl'

Mae'r Parchedig Glyn Wise yn dweud ei fod wedi bod yn "gweddïo i Dduw i ddefnyddio fi fel catalydd er mwyn ceisio rhannu'r neges da"
- Cyhoeddwyd
Mae'r Parchedig Glyn Wise yn credu y dylai offeiriaid ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn lledaenu eu neges a chenhadu'r ffydd Gristnogol.
Mae Glyn Wise, sy'n 37 oed a ddaeth i amlygrwydd ar gyfres Big Brother, ymhlith y rhai gafodd eu hordeinio yn offeiriad gan yr Eglwys yng Nghymru yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ddydd Sadwrn 27 Mehefin.
Dywedodd ei fod "o hyd yn gweddïo i Dduw i ddefnyddio fi fel catalydd er mwyn ceisio rhannu'r neges da yna a'i rannu fo mor bell a dwi'n gallu".
"Dyna pam dwi'n defnyddio gwefannau cymdeithasol, achos dwi'n meddwl os fasa'r disgyblion efo gwefannau cymdeithasol, fasa nhw'n defnyddio nhw rŵan wrth fynd allan yna."
Ychwanegodd fod cael ei ordeinio yn "brofiad anhygoel" a'i fod wedi "aros am dros bedair blynedd amdano".

Dywedodd Glyn fod cal ei ordeinio'n "anrhydedd" a'i fod yn "teimlo fod yr Ysbryd Glân gyda fi"
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Glyn wedi bod yn cael ei hyfforddi i fod yn offeiriad yn Athrofa Padarn Sant yng Nghaerdydd, ac mae wedi treulio cyfnodau yn Llundain, Eglwys San Silyn yn Wrecsam a Llangollen.
"Nes i fynd i'r coleg er mwyn gwneud gwaith Duw a chael mynd allan yna i fod fel un o'i ddisgyblion, a mewn ffordd, i fynd allan a rhannu'r neges da 'na.
"Ond rŵan dwi 'di cael fy neud yn offeiriad" ac roedd hynny "yn anrhydedd", meddai.
Esboniodd fod cerdded i mewn i Gadeirlan Llanelwy ar ôl "yr holl flynyddoedd o astudio'r Beibl, a gwybod fod William Morgan ei hun wedi bod yn Esgob yna" yn brofiad "arbennig - o'n i'n teimlo fod yr Ysbryd Glân gyda fi".
Er bod Glyn wedi mwynhau cael ei ordeinio doedd e ddim eisiau'r sylw. "Mae'r ffocws iawn ar Iesu ddim arna i".

Daeth Glyn i amlygrwydd ar raglen Big Brother yn ôl yn 2006
Fe wnaeth Glyn fwynhau paratoi a gwneud ei gymun cyntaf o flaen ei rieni yn eglwys Llangernyw - ac roedd nifer yn y gynulleidfa.
"O'n i wedi ymarfer ac ymarfer" ac wrth weld y bara a'r gwin o'i flaen meddyliodd "hwn ydy dy amser di Glyn, paid â neud dim yn anghywir, dilyn y drefn, bendithia'r bara yn gynta', bendithia'r gwin yn ail a wedyn ei rannu fel 'dan ni'n un teulu Cristnogol".
Roedd arwain y gwasanaeth cymun am y tro cyntaf fel offeiriad yn bwysig iddo ac yn brofiad fydd yn aros gydag ef am amser maith.
"Gwasanaethu'r sacrament yw canolbwynt y gwasanaeth a gallu teimlo fel 'dan ni'n mynd nôl at orchymyn ers blynyddoedd, ers amser y swper ola'."
Aeth ymlaen i ddweud wrth gymryd "y bara a'r gwin ti'n meddwl am yr holl frenhinoedd a breninesau sydd wedi cymryd y cymun".
Mae Glyn hefyd yn mynd i "dai pobl sydd ar eu gwely angau," meddai er mwyn "rhoi'r cymun iddyn nhw achos maen nhw'n gwybod fod nhw'n cymryd rhywbeth sydd yn trawsnewid eu tu mewn nhw", esboniodd.

"Dwi wedi cyrraedd y pwynt mewn bywyd lle dwi'n gwybod be' dwisio 'neud, hwnna sy'n bwysig," meddai.
"Mae 'na rhai pobl sydd ddim yn Gristnogion, mae 'na rai sydd ddim yn credu ac mae'n anodd esbonio iddyn nhw wedyn, ond i fi, dwi'n gwybod bod be' dwi'n 'neud yn iawn.
"Dwi'n cofio'r amser 'nes i benderfynu reit dwi am roi fy mywyd i Grist ac o'n i'n teimlo fo yn dy gamau mewn ffordd, pan ti'n cerdded, mewn ffordd, mae 'na rhyw fath o oleuni yn dod drwydda chdi yn sicrhau dy hun, 'mod i wedi 'neud y peth iawn mewn bywyd."
Dywedodd hefyd mai dyna sy'n dod â hapusrwydd mewn bywyd - "bod Duw efo chdi ar bob achlysur a ti byth ar ben dy hun".
Glyn Wise ac Elinor Talfan, 79, yn falch o gael eu hordeinio
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2025
Glyn Wise: 'Edrych ymlaen at yr her newydd'
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2022
Bydd y Parchedig Glyn Wise yn parhau i wasanaethu yn ardal Hen Golwyn, Llansannan, Llangernyw a Llanfair Talhaearn.
"Yr Ysbryd Glân sy'n gyrru fi, dwi'n gweddïo trwy'r amser i Dduw i ddefnyddio fi yn y ffordd gorau posibl.
"Dwi'n siŵr weithiau fod Duw yn gofyn i fi neud pethau a dwi'n neud pethe gwahanol, ond dwi'n trio neud yn siwr bod Crist yn ganolbwynt i bopeth dwi'n neud a dyna sy'n bwysig i fi."
Bydd cyfle i glywed oedfa'r Parchedig Glyn Wise ar Radio Cymru ddydd Sul am 12:00 ac yna ar BBC Sounds
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.