'Mesurau ychwanegol' ar Bont y Borth wedi iddi orfod cau eto

Pont y Borth ar gau ddydd Mercher
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont wedi cau yn sgil amheuaeth bod cerbydau dros bwysau wedi ei chroesi fore Mercher

  • Cyhoeddwyd

Bydd "mesurau ychwanegol" yn cael eu cyflwyno er mwyn cadw Pont y Borth ar agor ar gyfer deuddydd olaf Eisteddfod yr Urdd, wedi iddi orfod cau am yr ail ddiwrnod yn olynol.

Mae'r bont wedi gorfod cau ddwywaith ddydd Mercher er mwyn cynnal archwiliadau yn sgil amheuaeth bod cerbydau dros bwysau wedi ei chroesi.

Roedd yna draffig trwm ar ddwy ochr y Fenai ddydd Mawrth yn dilyn achos tebyg.

Dyma'r trydydd diwrnod o fewn wythnos i'r bont orfod cau am wiriadau diogelwch.

Cyhoeddodd Traffig Cymru am 12:00 ddydd Mercher fod y bont ar gau, ond roedd ynghau am lai nag awr, gan ailagor am 12:50.

Ond erbyn 13:30 roedd y bont ar gau eto, "oherwydd cerbyd trwm ychwanegol yn croesi", ac y tro hwn bu ar gan tan 15:30.

Mae cynghorau Ynys Môn a Gwynedd wedi ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Maen nhw hefyd yn atgoffa gyrwyr o'r cyfyngiadau ar y bont yn ystod atgyweiriadau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "cynyddu presenoldeb yr heddlu a swyddogion traffig Llywodraeth Cymru i gefnogi cydymffurfiaeth".

Ond yn ddiweddarach dywedon nhw y bydd "mesurau ychwanegol" yn cael eu cyflwyno er mwyn cadw'r bont ar agor ar gyfer deuddydd olaf Eisteddfod yr Urdd.

Bydd goleuadau traffig ar waith ar y bont o nos Fercher, gyda gweithwyr yn troi cerbydau am yn ôl os ydyn nhw dros y terfyn pwysau.

Ond mae'r cyfan wedi atgyfnerthu'r galwadau i wella gwytnwch y ddwy bont bresennol, neu i adeiladu trydedd.

'Cynyddu presenoldeb'

Dywed y cynghorau ddydd Mercher: "Yn dilyn amheuaeth bod cerbyd dros bwysau wedi croesi'r bont y bore yma, mae'r ffordd wedi'i chau er mwyn cynnal archwiliad rhagofalus.

"Byddwn yn ailagor y bont cyn gynted ag y caiff ei chadarnhau ei bod yn ddiogel i wneud hynny.

"Ymddiheurwn am yr anghyfleustra ac atgoffwn bob defnyddiwr mai dim ond cerbydau o dan 7.5 tunnell sy'n cael defnyddio Pont y Borth."

Roedd Eisteddfod yr Urdd yn annog unhryw un oedd yn sownd mewn traffig ac yn poeni am gyrraedd mewn pryd i gysylltu gyda nhw ar 0345 257 1613 neu eisteddfod@urdd.org.

Cerbydau'n troi am yn ôl ger Pont y Borth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cerbydau'n gorfod troi am yn ôl amser cinio wedi i'r bont gau ar fyr rybudd

Dywedodd Llywodraeth Cymru yn wreiddiol ddydd Mercher y byddan nhw'n "cynyddu presenoldeb yr heddlu a swyddogion traffig Llywodraeth Cymru i gefnogi cydymffurfiaeth" o'r cyfyngiad pwysau.

Ond yn ddiweddarach dywedon nhw y bydd mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno.

"Rydym yn deall y rhwystredigaeth a achosir gan gau Pont Menai yn ystod yr amser prysur hwn, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r aflonyddwch," meddai'r llywodraeth.

"Dim ond cerbydau o dan 7.5 tunnell all ddefnyddio Pont Menai.

"Yn dilyn torri rheolau diweddar, bydd goleuadau traffig bellach ar waith ar y bont o heno (27 Mai) ac am hyd yr Urdd.

"Bydd gweithwyr yn troi cerbydau sydd dros y terfyn pwysau i ffwrdd.

"Bydd y rhai sy'n methu â chydymffurfio yn cael eu cyfeirio at yr heddlu, a byddwn yn cynyddu presenoldeb yr heddlu a Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru i gefnogi cydymffurfiaeth.

"Byddem yn annog aelodau'r cyhoedd i barchu'r rhai sy'n gweithio ar y bont ac i ddilyn eu cyfarwyddiadau.

"Mae gwella gwydnwch ar draws y Fenai yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru fel rhan o'n huchelgeisiau trafnidiaeth ac economaidd ehangach."

Gary Pritchard yn gwneud cyfweliad ar faes Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

"Be 'da ni'n pwysleisio unwaith yn rhagor ydi nad ydi gwytnwch y ddwy bont yn ddigonol," meddai Gary Pritchard

Dywedodd Gary Pritchard, arweinydd Cyngor Môn, ei bod yn "hynod o rwystredig unwaith yn rhagor i weld y bont yn gorfod cau, a hynny am bod rhywun heb gadw at y gofynion pwysau ar gyfer y bont".

"Mae'n rhwystredig nid yn unig i ni fel cyngor a chynghorwyr, mae'n rhwystredig i fi fel trigolyn yr ynys sy'n gorfod brwydro trwy'r traffig fy hun hefyd," meddai.

"Yr unig beth alla i 'neud ydi annog pobl i cadw at y cyfyngiadau - maen nhw yno am reswm - ond be 'da ni'n pwysleisio unwaith yn rhagor ydi nad ydi gwytnwch y ddwy bont yn ddigonol.

"Mae angen sgwrs gall ynglŷn â sut mae gwella gwytnwch ein cysylltiad ni fel ynys efo'r tir mawr."

'Angen cynllun clir tymor hir'

Mae'n "hynod siomedig", medd Aelod Seneddol Ynys Môn yn San Steffan, bod "diffyg cydymffurfio â'r terfyn pwysau" wedi achosi trafferthion traffig am yr ail ddiwrnod yn olynol, yn enwedig "yn ystod wythnos sydd mor bwysig i Ynys Môn o ran Eisteddfod yr Urdd a dechrau cyfnod prysur yr haf".

Dywed Llinos Medi bod "diffyg buddsoddiad a gweledigaeth gan Lywodraeth y DU, a diffyg gweithredu a chynllunio priodol gan lywodraethau blaenorol Cymru wedi arwain at drafferthion parhaus gyda'r bont", gan effeithio'n sylweddol ar drigolion ac economi'r ardal.

Fe fydd yn "gweithio gyda llywodraeth newydd Cymru i sicrhau bod rheolau pwysau yn cael eu cyfathrebu a'u gweithredu'n effeithiol" ac yn pwyso am ateb tymor hir "i'r broblem barhaus hon" a chynllun "clir a chynaliadwy i osgoi gweld y bont yn cau dro ar ôl tro".

Helen Jenner ar faes Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n ffaith bod pethau wedi mynd yn waeth," meddai Helen Jenner

Dywedodd AS Reform ar gyfer etholaeth Bangor Conwy Môn, Helen Jenner, bod "rhywbeth angen digwydd" i ddatrys y broblem, gan ychwanegu y byddai'n bersonol o blaid trydedd bont.

"Gafodd y bont ei chau am y tro cyntaf rhyw dair blynedd a hanner yn ôl, a mae'n rhaid bod nhw wedi gwario gymaint arna fo i drio atgyweirio be' sy' angen arna fo, ond ma' pobl leol yn meddwl bod dim byd wedi gwella.

"Mae'n ffaith bod pethau wedi mynd yn waeth.

"Mae Rhun ap Iorwerth, sydd wrth gwrs rŵan yn brif weinidog, wedi sôn bod o'n ffeindio'r sefyllfa yn hynod o frustrating pan oedd o'n wrthblaid i Lafur, so gobeithio rŵan bod hynny am fod yn flaenoriaeth fawr iddo fo.

"Mae 'na sôn am drydedd bont. I fi yn bersonol - dydi o ddim ym maniffesto nac yn bolisi Reform - dwi'n meddwl y bysa trydedd bont yn gwneud synnwyr.

"Dydi pobl ddim isio eistedd mewn traffig am 40 munud yn dod i'r ynys - mae o jyst yn mynd i roi pobl off dod, so mae rhywbeth angen digwydd."

'Effaith andwyol'

Mae dau o ASau Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Bangor Conwy Môn wedi ysgrifennu at y Gweinidog Trafnidiaeth Mark Hooper yn galw am fwy o wybodaeth am y sgyrsiau sydd wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni UK Highways A55 - sy'n gyfrifol am y bont - "i orfodi'n well y terfyn pwysau... ac i atal gyrwyr rhag ei anwybyddu".

Dywedodd Mair Rowlands ac Elfed Williams fod "effaith andwyol cau'r bont ar fyr rybudd wedi bod hyd yn oed yn fwy amlwg yn ystod y dyddiau diwethaf o ystyried y cynnydd mewn traffig yn teithio i ac o Ynys Môn ar gyfer Eisteddfod yr Urdd".

"Hoffem ofyn am gyfarfod gyda chi i drafod cynlluniau'r llywodraeth hon i ddarparu'r ateb hirdymor cynaliadwy angenrheidiol i fynd i'r afael â'r problemau wrth groesi'r Fenai.

"Ar ôl blynyddoedd o ddiffyg gweithredu gan lywodraethau blaenorol ar y mater hwn, rydym yn awyddus i sicrhau bod hyn yn flaenoriaeth ar agenda'r llywodraeth hon."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.