Pont y Borth i gau yn llwyr eto am 28 awr i ddiogelu ceblau

Pont y BorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Pont y Borth ar gau yn llwyr i gerbydau rhwng 14:00 ddydd Gwener a 18:00 ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Bydd Pont y Borth rhwng Gwynedd a Môn ar gau yn llwyr i gerbydau o brynhawn Gwener tan nos Sadwrn i ddiogelu ceblau cyfathrebu.

Ers dydd Mercher mae un lôn wedi bod ar gau ar y bont rhwng 10:00 a 18:00, gyda goleuadau yn rheoli llif y traffig.

Ond rhwng 14:00 ddydd Gwener a 18:00 ddydd Sadwrn bydd y bont ar gau yn llwyr i gerbydau - ond bydd modd i gerddwyr a phobl gyda beiciau i groesi.

Wedi hynny, bydd un lôn ar gau eto yn ddyddiol tan ddydd Gwener nesaf, 22 Mai.

Mae'r gwaith o atgyweirio'r bont, sy'n 200 oed eleni, wedi bod yn mynd ymlaen ers rhai blynyddoedd bellach, ac mae disgwyl iddo bara tan o leiaf gwanwyn 2027.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod hyn "i fynd i'r afael â risg diogelwch uniongyrchol sy'n gysylltiedig â cheblau cyfathrebu heb eu diogelu o dan y bont, ac i roi mesurau i sicrhau diogelwch y gweithlu ar y bont".

"Rhaid diogelu'r ceblau, sy'n darparu cysylltiadau cyfathrebu ag Ynys Môn ac Iwerddon, cyn y gall gwaith pellach barhau.

"Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau y tarfu tra bod y gwaith pwysig hwn yn cael ei wneud, a diolchwn i'r gymuned am eu hamynedd parhaus."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig