Llanidloes yn cynnal Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd 2027

Mae gorymdaith a seremoni Gorsedd Cymru yn cael eu cynnal yn Llanidloes ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd 2027 yn cael ei chynnal yn Llanidloes ddydd Sadwrn.
Mae'r ŵyl yn nodi dechrau swyddogol y cyfnod paratoi ar gyfer yr Eisteddfod, gyda gorymdaith a seremoni Gorsedd Cymru yn y dref.
Yn ystod y seremoni derbyniodd yr Archdderwydd Mererid Hopwood gopi cyntaf o'r Rhestr Testunau, sy'n cynnwys manylion holl gystadlaethau Eisteddfod 2027, gan gadeirydd y pwyllgor gwaith, Aled Griffiths.
Roedd ysgolion, cymdeithasau lleol a grwpiau cymunedol o ardal yr Eisteddfod yn rhan o'r orymdaith drwy strydoedd Llanidloes.

Ym mis Ionawr daeth cadarnhad y bydd Eisteddfod Genedlaethol 2027 yn cael ei chynnal ar dir fferm yn ardal Glantwymyn ger Machynlleth.
Fe gafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yno ddiwethaf yn 1981 - ar fferm Mathafarn.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld â Phowys ers Prifwyl Meifod yn 2015.

Bydd de Gwynedd hefyd yn rhan o ddalgylch Eisteddfod Genedlaethol 2027 wrth i'r ardal ymestyn i'r gogledd cyn belled ag Afon Mawddach gan gynnwys Dolgellau, Y Bala, Tywyn, Aberdyfi a'r Bermo.
Yn ôl y traddodiad, cynhelir y digwyddiad cyhoeddi o leiaf flwyddyn a diwrnod cyn yr Eisteddfod er mwyn croesawu'r ŵyl i'r ardal a'r ardal i'r ŵyl.
Yr Archdderwydd, Mererid Hopwood, oedd yn arwain y seremoni ac mi gafodd copi cyntaf o'r rhestr cystadlaethau ei gyflwyno iddi.
Roedd yr orymdaith liwgar yn cynnwys ysgolion, sefydliadau lleol a'r Orsedd.

Aeth dros 600 o bobl i orymdeithio
Yn siarad gyda Garry Owen ddydd Sadwrn, gohebydd arbennig Newyddion Radio Cymru, dywedodd Mererid Hopwood fod y digwyddiad yn "arbennig".
Dywedodd ei fod yn "ddiwrnod diddorol, lle diddorol, lle arbennig, canol Cymru, calon Cymru".
"Amser arbennig - 800 a hanner o flynyddoedd o gofnod o leiaf o ddathlu ymryson barddol a cherddol."
Ychwanegodd y Prifardd mai "egwyddorion heddwch yw sail yr orsedd" ac mai hynny sy'n bwysig cofio.

Dywedodd Mererid Hopwood (uchod yn 2024) fod Llanidloes yn "le arbennig"
Dywedodd Heulwen Davies, Cyfarwyddwr Llais Cymru ac Is-gadeirydd Strategol y Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2027 fod "cyffro mawr" yn lleol wrth i drigolion a busnesau Llanidloes baratoi i groesawu'r digwyddiad ddydd Sadwrn.
Dywedodd hefyd fod "brwdfrydedd mawr" dros yr ŵyl ym Maldwyn a Meirionnydd yn barod, gyda llawer o syniadau a digwyddiadau'n cael eu trefnu "nid yn unig dros y misoedd nesaf ond ymhell i'r flwyddyn newydd hefyd!"

Yn ôl Heulwen Davies mae "brwdfrydedd mawr" dros yr ŵyl ym Maldwyn a Meirionnydd yn barod
Dywedodd Aled Griffiths ei fod yn "edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad".
"Dyma'r cyfle cyntaf gwirioneddol i bobl Powys a De Gwynedd fwynhau cyffro presenoldeb yr Eisteddfod yn eu hardal leol, a dyma wahoddiad i'r gymuned gyfan fod yn rhan o'r daith tuag at yr ŵyl fis Awst nesaf."

Aled Griffiths yw cadeirydd y pwyllgor gwaith
Roedd yr orymdaith yn gadael Ysgol Uwchradd Llanidloes am 14:00 ac yn dychwelyd erbyn 15:00 ar gyfer y seremoni, gyda'r digwyddiad yn dod i ben erbyn tua 16:00.
Bydd y Rhestr Testunau lawn ar gael mewn siopau lleol ar draws Cymru ar ôl y seremoni gyhoeddi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill

- Cyhoeddwyd12 Chwefror

- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
